Main content

Podlediad Chwefror 17eg - 23ain

Gwenno Rees a Phatagonia, Ioan Talfryn, Catrin Williams yn hwylfyrddio a Mair Tomos Ifans

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

9 o funudau

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr: Chwefror 17eg – 23ain 2018



Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf


Rhaglen Geraint Lloyd - Patagonia

sawl blwyddyn – many years
yn werth bob eiliad – worth every second
gwledydd - countries
cymaint o bethau – so many things
diwylliant - culture
agweddau – aspects


Mae Gwenno Rees o Efail Isaf ger Pontypridd yn mynd iÌý Batagonia am ddeg mis i weithio fel athrawes Gymraeg yno. Ydy hi'n edrych ymlaen at fynd? Be fydd hi'n ei wneud yno? A be wneith hi ar ddiwedd y deg mis? Dyma rai o'r cwestiynau gofynnodd Geraint Lloyd iddi hi ddydd Llun diwetha.

RhaglenÌý Geraint Lloyd – Amgueddfa Radio

rhan flaenllaw iawn – a very prominent role
danfon – to send

darganfod – to discover
tonfeydd radio – radio waves
olrhain – to trace
cyfraniad – contribution
y genedl Gymreig – the Welsh nation
arddangosfa - exhibition

allweddol – significant (key)
deillio o – to emanate from

Ìý

Falle eich bod yn nabod Ioan Talfryn fel un o'r tiwtoriaid ar y rhaglen Cariad@Iaith a fo ydy cyfarwyddwr Cwmni Popeth Cymraeg yn Ninbych. Un o'r bobl fuodd yn helpu Ioan Talfryn i gael y cwmni ar ei draed oedd David Jones oedd hefyd a diddordeb mawr mewn hanes radio. Ac erbyn hyn nid gwersi Cymraeg yn unig sydd i'w cael yn adeilad Popeth Cymraeg yn y dre, fel buodd Ioan yn sôn wrth Geraint Lloyd.

Bore Cothi - Hwylfyrddio

hwylfyrddio – windsurfing
math o hwylio – a kind of sailing
nôl ac ymlaen – back and forth
cydbwysedd – balance
ar hap a damwain – accidentally
brwyn – rush
cydio – to grasp
yr hwyl – the sail
dy nod di – your aim
nod tymor hir – long term aim


Hwylfyrddio oedd un o themâu rhaglen Bore Cothi ddydd Mawrth. Cafodd Shan sgwrs efo Catrin Williams o Gaernarfon sy’n dipyn o seren ym myd hwylfyrddio.

Ìý

Bore Cothi – Pontydd

Ìý

Ìý

stori arswyd – horror story
eithriadol – exceptional
ysbrydion – spirits
carnau ceffylau – horses’ hooves
nes ac yn nes – nearer and nearer
andros o wib – really quickly
sgrechfeydd – screeches
gweyru ac udo – neighing and howling
gwich olwyn – creak
tawelwch llethol – total silence

Dydd Mercher diwetha roedd hi’n ddiwrnod y Pontydd. AÌý phontydd oedd thema sgyrsiau rhaglen bore Cothi y diwrnod hwnnw.Ìý Cafodd Shan sgwrs efo'r storïwraig Mair Tomos Ifans am ambell i stori arswydÌý sy'n ymwneud â phontydd.

Ìý

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru,

Podlediad