Main content
"Taran Tom" - cerdd i Tom Lawrence gan Osian Rhys Jones
Taran Tom
Cyn bod hi’n nos daeth drosom
Sŵn sgrechian, sŵn taran Tom,
Ergyd drwy’r hollfyd oedd hi -
Laser trwy wyll Tblisi.
A charwn wylio’n chwarae
Gyrnol pob un canol cae -
Joe Allen fel Dyson dwys
Yn hwfro’r bêl yn gyfrwys.
Pan ddaw nos Lun fe gawn ailuno,
Hydref rhwydd ei hyder i freuddwydio,
Coch fydd y mur, a Chymru’n ddiguro,
Daw sŵn ymysgwyd, a sôn am Mosgo.
Bydd Gwyddelod yn rhodio adre’n chwil
A bois O’Neill o dan bwysau’n wylo.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau 07/10/2017
-
Taran Tom
Hyd: 00:56
Mwy o glipiau Ifan Jones Evans
-
Pwy Sy'n Perthyn - Ava Zeta-Jones
Hyd: 04:32
-
Ela Mai - dyfarnu reslo yn 16 oed
Hyd: 13:42
-
Hyfforddwr Gyrru Hynaf Cymru?
Hyd: 15:21