Main content

Taran Tom

"Taran Tom" cerdd i Tom Lawrence gan Osian Rhys Jones.

Cyn bod hi’n nos daeth drosom
Sŵn sgrechian, sŵn taran Tom,
Ergyd drwy’r hollfyd oedd hi -
Laser trwy wyll Tblisi.

A charwn wylio’n chwarae
Gyrnol pob un canol cae -
Joe Allen fel Dyson dwys
Yn hwfro’r bêl yn gyfrwys.

Pan ddaw nos Lun fe gawn ailuno,
Hydref rhwydd ei hyder i freuddwydio,
Coch fydd y mur, a Chymru’n ddiguro,
Daw sŵn ymysgwyd, a sôn am Mosgo.
Bydd Gwyddelod yn rhodio adre’n chwil
A bois O’Neill o dan bwysau’n wylo.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

56 eiliad