Main content

Neuadd y Farchnad, Aberdâr: Keir Hardie yn cynnal cyfarfod heddwch

Neuadd y Farchnad, Aberdâr: Keir Hardie yn cynnal cyfarfod heddwch

Cynhaliwyd cyfarfod heddwch stormus yn Neuadd y Farchnad, Aberdâr, ar Awst 6ed 1914. Roedd Keir Hardie, yr aelod seneddol Llafur lleol, wedi trefnu’r cyfarfod ers peth amser ac fe benderfynwyd na ddylid ei ohurio er bod rhyfel wedi ei gyhoeddi ddeuddydd ynghynt.

Roedd Hardie’n sosialydd, yn heddychwr ac yn Gristion ac yn credu na ddylai gweithwyr fod yn rhyfela yn erbyn ei gilydd. Ond wedi i’r rhyfel ddechrau fe newidiodd agwedd pobl Aberdâr, gan droi yn jingoistaidd a Phrydeinig. Yn sydyn ychydig iawn o gefnogaeth oedd i heddychiaeth draddodiadol y dref.

Roedd Neuadd y Farchnad dan ei sang yn ystod y cyfarfod ar Awst 6ed, gyda nifer o bobl yn gwaeddi ac yn canu er mwyn tarfu ar y digwyddiad ac er mwyn rhwystro Hardie rhag siarad. Tua diwedd y noson fe daniwyd dryll, ac fe ddilynwyd Hardie yn ol i’w lety gan rai o’r dorf.

Fe dorrwyd ysbryd Keir Hardie gan y Rhyfel Byd Cyntaf a chan agwedd pobl Aberdâr tuag ato, a bu farw yn 1915 wedi cyfnod hir o salwch.

Hywel Davies, ficer Aberdâr, sy'n son am y cyfarfod.

Lleoliad: Neuadd y Farchand, Aberdar, CF44 7DY

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

4 o funudau