Main content

Cefndir

Mae prosiect Y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru yn dangos sut wnaeth y rhyfel effeithio ar fywydau pobl gartref. Bydd degau o'r straeon yn cael eu darlledu yn 2014 ac wedi hynny, ar radio ac ar y we.

Straeon lleol y Rhyfel Mawr

Bydd pob stori yn canolbwyntio ar leoliad – maes awyr, ysbyty, ysgol, eglwys, sgwâr y dref, theatr, stryd fawr, cartref, capel – i ddangos sut wnaeth y pethau ddigwyddodd yno ddylanwadu ar y hynt y rhyfel.

Sut wnaeth gweithwyr yn ein ffatrïoedd helpu i gyflenwi’r milwyr ar faes y gad, sut wnaeth dyfeisiadau technolegol newydd chwyldroi’r brwydro a sut wnaeth bygythiadau’r gelyn newid ein glannau a’n pentrefi am byth?

Mae Y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru yn rhan o brosiect mwy y Â鶹ԼÅÄ, sef . Bydd yn dechrau ar ddiwedd Chwefror 2014, gyda straeon yn cael eu darlledu ar Radio Cymru a Radio Wales, ar orsafoedd radio’r Â鶹ԼÅÄ yn yr Alban a Gogledd Iwerddon ac ar radio lleol a theledu rhanbarthol drwy wledydd Prydain.

Bydd y straeon i gyd ar gael ar-lein gyda mwy eto yn mynd yn fyw yn ystod 2014 a thu hwnt.

Ein partneriaid

Mae’r Â鶹ԼÅÄ wedi ffurfio partneriaeth gydag Amgueddfeydd Rhyfel yr Ymerodraeth (Imperial War Museums, IWM) a Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau i’w helpu i ymchwilio i’r straeon ar gyfer y prosiect.

Mae’r IWM wedi rhoi cyfle arbennig inni ddefnyddio eu harchifau a’u harbenigwyr gan ddatgelu trysorfa o straeon, llawer ohonyn nhw’n cael eu clywed am y tro cyntaf, yn ogystal â ffotograffau, clipiau sain a ffilmiau o’r archif.

Gyda chefnogaeth Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau mae academyddion ac arbenigwyr hanes wedi rhoi eu hamser a’u gwybodaeth i newyddiadurwyr ac ymchwilwyr y Â鶹ԼÅÄ, gan roi cyd-destun hanesyddol, straeon posib a chyswllt gydag amgueddfeydd, sefydliadau ac arbenigwyr lleol. Mae hwythau hefyd wedi bod yn hael iawn yn rhoi eitemau a goleuni newydd ar yr hanes drwy eitemau o’u casgliadau eu hunain.

Bydd pob stori yn cael ei chyhoeddi ar-lein a bydd ar gael i wrando arni unrhyw bryd. Bydd hyn yn creu archif ddigidol heb ei thebyg o ddarnau sain, fideo a lluniau. Bydd y straeon wedi eu trefnu yn ôl ardal (gorsaf radio leol neu genedlaethol yn achos y wefan Saesneg) neu yn ôl thema (fel y Rhyfel yn yr Awyr, Merched, Meddygaeth, Gweithio dros y Rhyfel, Crefydd, Chwaraeon, Anifeiliaid).

Gwrandewch ar straeon o’ch ardal chi ar Radio a Theledu y Â鶹ԼÅÄ. Dewch o hyd i straeon o wledydd Prydain i gyd ar-lein, neu drwy ddilyn #WW1AtÂ鶹ԼÅÄ.