Clydach, Abertawe: Gwaith Nicel Ludvig Mond
Sefydlwyd purfa nicel yng Nghwm Tawe oedd yn allweddol i greu tanciau ac arfau'r rhyfel.
Dr. Gethin Matthews sy'n sôn a bwysigrwydd gwaith Nicel y Mond, Clydach, Cwm Tawe yn ystod y Rhyfel Mawr.
Roedd angen mawr am nicel er mwyn atgyfnerthu dur ar gyfer tanciau ac arfau yn gyffredinol.
Daeth Purfa Nicel y Mond yng Nghlydach yn allweddol yn hyn oll.
Y dyn a sefydlodd y gwaith ac arloesi yn y broses o buro nicel oedd Almaenwr o'r enw Ludwig Mond.
Oherwydd fod ychydig bach o nicel yn gallu gwneud dur yn galed iawn, gallai gael ei ddefnyddio i gryfhau arfau a thaflegrau.
Dechreuodd purfa Mond gynhyrchu yn 1902 a dewisiwyd Cwm Tawe am ei fod yn agos i feysydd glo de Cymru a phorthladd Abertawe, lle roedd mwyn nicel o Ganada yn cael ei fewnforio. Datblygodd y gwaith i fod yn un o brif gyflogwyr yr ardal.
Daeth mab Ludwig, ac etifedd y gwaith, Syr Alfred Mond, yn Aelod Seneddol dros Abertawe ac yn nes ymlaen, yn aelod o gabinet rhyfel Lloyd George. Ond ar ddechrau'r rhyfel, dechreuodd y wasg dynnu sylw at ei wreiddiau Almaenig-Iddewig.
Ganrif yn ddiweddarach mae rhywfaint o'r gwaith gwreiddiol yn dal i'w weld yng Nghlydach er ei fod wedi newid dwylo erbyn hyn ac yn eiddo i Vale. Mwy rhyfeddol yw'r ffaith fod y gwaith yn dal i gynhyrchu mwy neu lai yr un cynnyrch ag yr oedd yn 1914-1918, er at ddibenion gwahanol heddiw.
Lleoliad: Gwaith Nicel Mond, Ffordd y Glais, Clydach, SA6 5QR
Lluniau drwy garedigrwydd Casgliad Eric Williams, Vale (Europe) Ltd - Purfa Clydach, Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg a'r Imperial War Museums.