Main content

Parc Meurig, Bethesda: Tîm pêl-droed y 'Comrades of the Great War'

Cafodd cyn filwyr yn nhîm pêl-droed y Comrades eu hanfarwoli yn nofel Un Nos Ola' Leuad.

Yn syth wedi diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf fe ffeiriodd rhai o gyn filwyr Bethesda, Dyffryn Ogwen, eu sgidiau martsio am styds pêl-droed ac ymuno â thîm pêl-droed newydd lleol - y Bethesda Comrades of the Great War.

Roedden nhw’n chwarae ym Mharc Meurig, Bethesda, cartref tîm pêl-droed y pentref hyd heddiw.

Roedd ‘Comrades of the Great War’ yn enw gafodd ei ychwanegu at enwau nifer o dimau pêl-droed wedi’r rhyfel.

Ond mae tîm Bethesda yn adnabyddus am eu bod yn ymddangos yn nofel Un Nos Ola’ Leuad gan Caradog Prichard, nofel sy’n sôn am ei blentyndod ym mhentref chwarel Bethesda ar ddechrau’r 20fed ganrif.

Enw’r tîm yn y nofel ydy Celts ac mae Parc Meurig yn cael ei alw’n Cae Robin Dafydd.

Yn y clip yma mae’r hanesydd Dr. Meilyr Emrys yn sôn am y tîm ac am bêl-droed yn y cyfnod ac yna J. Elwyn Hughes, sy'n arbenigwr ar hanes Bethesda, yn dweud hanes un gêm enwog sydd wedi ei hanfarwoli yn nofel Caradog Prichard.

Fe ddigwydd y ‘ffeit fawr’ ar y cae pêl-droed yn y nofel go iawn a hynny ym Mharc Meurig yn 1920.

Roedd ‘na sawl milwr yn aelod o Comrades Bethesda, gan gynnwys dau frawd: Thomas Morris a Bob Morris (pumed a chweched o’r chwith yn y cefn yn y llun). Roedd eu brawd, William John Morris, hefyd yn hyfforddi’r clwb ac wedi bod yn y fyddin, fel roedd Rowland Hughes ('Roli bach', ail o'r chwith yn y blaen) ac ysgrifennydd y tîm, Joe McCarter (trydydd o'r chwith yn y cefn).

Mewn gêm rhwng y Comrades a’r Holyhead Reserves yn 1920 fe gollodd Thomas Morris ('Wil Robaits' yn Un Nos Ola’ Leuad) ei dymer efo’r reffarî ac ymosod arno. Ymunodd pawb yn y cythrwfwl nes bod rhaid galw'r heddlu. Fe gafodd Thomas Morris ei arestio a’i wahardd rhag chwarae pêl-droed am dri mis.

Roedd J. Elwyn Hughes yn gyfaill i Caradog Prichard ac mae wedi ysgrifennu llyfr am yr hanes go iawn y tu ôl i’r nofel, sef Byd Go Iawn Un Nos Ola’ Leuad.

Yn ôl Meilyr Emrys, sydd wedi astudio hanes pêl-droed yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, mae’n bosib mai effaith erchyllterau ymladd yn y rhyfel oedd yn gyfrifol am yr ymateb gwyllt ar y cae pêl-droed.

Mae hefyd yn dweud fod pêl-droed wedi cael hwb mewn poblogrwydd yn ystod y blynyddoedd wedi’r rhyfel ac wedi helpu milwyr i ddod nôl i fywyd go iawn wedi’r brwydro.

Mae 'na sawl stori a filwyr yn chwarae pêl-droed ar faes y gad, fel yr hanes enwog am gadoediad Nadolig 1914. Yn ôl Dr Meilyr Emrys roedd swyddogion y fyddin yn annog chwarae'r gêm yn ystod y cyfnodau hir ac anodd yn y ffosydd.

Lleoliad: Parc Meurig, Bethesda, Gwynedd, LL57 3NT
Llun: Y Bethesda Comrades ym Mharc Meurig 1919-20 drwy garedigrwydd J. Elwyn Hughes o’i lyfr 'Byd Go Iawn Un Nos Ola’ Leuad', Gwasg Gwalia.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

4 o funudau