Ceunant, Caernarfon: Gorsaf gyfathrebu Marconi
Roedd negeseuon yn cael ei hanfon dros Ewrop o safle di-nod ar ochr y mynydd yn Eryri.
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf fe ddefnyddiodd y Swyddfa Bost, a wedyn y Llynges Brydeinig, safle cyfathrebu di-wifr Marconi sydd ar ochr Mynydd y Cefn Du, y Ceunant ger Caernarfon, fel rhan o’r ymdrech ryfel.
Roedd yn cael ei ddefnyddio i gyfathrebu negeseuon ar hyd a lled Ewrop ac i ddarganfod safleoedd targed y gelyn.
Adeiladwyd yr adeilad yn 1914 ac roedd 'na 10 mast anferth i’w gweld ar y mynydd wrth i’r safle ddatblygu.
Roedd Gugliemo Marconi yn ddyfeisiwr ac yn beiriannydd electroneg o’r Eidal a ddatblygodd ffyrdd o gyfathrebu heb wifrau.
Roedd gorsafoedd fel hon yn Ceunant yn hanfodol i ymdrech rhyfel Prydain.
Mae’r adeilad yn dal i sefyll hyd heddiw ac wedi cael ei ddefnyddio yn ddiweddar fel canolfan ddringo ond erbyn hyn mae’r safle yn cael ei ddefnyddio fel stablau a gyfer ceffylau’r perchennog.
Mi fu'r hanesydd lleol o Lanrug, Dafydd Whiteside Thomas, a’r Athro Iwan Morus o adran hanes Prifysgol Aberystwyth draw i’r Ceunant i olrhain hanes y safle ac i weld sut roedd y lle yn cael ei ddefnyddio yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Lleoliad: Ceunant, Caernarfon, Gwynedd, LL55 4SA.
Llun: Gorsaf Marconi ddoe a heddiw.