Main content

Caerdydd: Merched yn gweithio ar dramiau'r ddinas

Wrth i'r dynion gael eu galw i'r fyddin daeth cyfle i fenywod gymryd eu lle ar y tramiau.

Yn 1902 fe gyflwynwyd tramiau trydan i strydoedd Caerdydd, ac erbyn 1905, pan ddaeth Caerdydd yn ddinas, roedd tua 131 o dramiau ledled y ddinas gyda thua 20 miliwn o deithiau ar y tramiau hynny.

Roedd yna lu o docynwyr a gyrwyr yn gweithio ar dramiau’r ddinas, a’r swyddi hyn yn cael eu llenwi gan ddynion.

Ond wedi dechrau’r Rhyfel Mawr, yn arbennig ar ôl cyflwyno gorfodaeth filwrol, fe ddaeth cyfle i ferched fynd i weithio.

Rhoddodd hyn gyfle i ferched i wneud swyddi fyddai fel arfer yn cael eu gwneud gan ddynion. Doedd gweithio ar y tramiau yng Nghaerdydd ddim yn eithriad ac erbyn diwedd 1915 roedd tua 60 o fenywod yn gweithio fel tocynwyr.

Yr hanesydd Catrin Stevens ac Elen Phillips o’r Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan sy'n rhoi’r hanes ac yn trafod pwysigrwydd yr ymdrech hon i hanes menywod yng Nghymru ac yn trafod gwisg o'r 1920au sy'n dangos effaith hir dymor cyflogi menywod ar dramiau’r ddinas yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Lleoliad: Stori Caerdydd, Yr Hen Lyfrgell, Yr Aes, Caerdydd, CF10 1BH
Llun: Gwisg menyw fu’n gweithio ar dramiau Caerdydd yn y 1920au, drwy garedigrwydd Amgueddfa Sain Ffagan; llun o ddynion a merched yn gweithio ar dramiau Caerdydd yn ystod - neu'n fuan wedi - y Rhyfel Mawr, drwy garedigrwydd y 'Tramway and Light Railway Society'.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

4 o funudau