Capel Ebenezer, y Ffôr, Pwllheli: Dagrau mam wrth i'w mab ymrestru
Yn ysgoldy Capel Ebenezer y cychwynnodd taith Griffith Jones i'r Somme, ac i'w farwolaeth
Beryl Harris sy’n dweud hanes torcalonnus ei nain yn erfyn ar ei mab hynaf, Griffith Jones, ewythr Beryl, i beidio ymuno â’r fyddin wrth iddo dorri ei enw yn y llyfr ymrestru mewn cyfarfod recriwtio yn ysgoldy Capel Ebenezer, y Ffôr, yn 1914.
Cafodd Griffith ei ladd yn y cyrch enwog ar Goed Mametz yn 1916 – un o frwydrau’r Somme a laddodd nifer fawr o Gymry’r 38th Welsh Division.
Roedd Griffith a chwech arall wedi eu hysbydoli i ymuno yn y fan â'r lle wedi i'r Parchedig John Williams siarad yn y cyfarfod. Yn ôl hanes y teulu fe gafodd mam Griffith orchymyn gan y gweinidog i fod ddistaw a gadael i'w mab wneud ei benderfyniad ei hun tra roedd hi'n ymbil arno drwy ei dagrau.
Yn ôl Beryl Harris, ni aeth ei nain, mam Griffith, ar gyfyl capel wedi hynny.
Roedd John Williams yn weinidog dylanwadol oedd yn un o arweinwyr ymgyrch Lloyd George i recriwtio bechgyn Cymru i’r fyddin.
Mae’r stori yma yn cael ei dweud yn y llyfr ‘Epil Gwiberod yr Iwnion Jac’ gan Geraint Jones hefyd, un arall o deulu Griffith Jones.
Mae’n dweud: “Ar fwrdd y cymun fe daenwyd lliain gwyn, yn arwydd sacramentaidd o gysegredigrwydd y weithred o listio. Gerllaw, a’i phwys ar ganllaw y sêt fawr, erfyniai Nain druan, yn ei dagrau, ar i’w mab beidio â thorri ei enw ar y Llyfr Listio. ‘Paid â mynd, Guto bach, mi lladdan nhw di’. Arthiodd y duwiol Frynsiencyn arni i gau ei cheg, a pheidio â busnesu … Yno yng ngŵydd y Porthmon, y torrodd f’ewyrth ei enw, ei ddedfryd marwolaeth ei hun.â€
Lleoliad: Capel Ebenezer, Y Ffôr, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6UP
Llun: Darn o bapur Y Genedl Gymreig ar 6 Hydref 1914 drwy wefan 'Papurau Newydd Ar-lein' y Llyfrgell Genedlaethol; Griffith Jones drwy garedigrwydd Casgliad y Werin a Chapel Ebenezer, cyn iddo gael ei ddymchwel, gyda diolch i Alun Williams, y Ffôr ac ysgrifenyddes y capel presennol.