Main content

Wrecsam: Cannoedd o fenywod yn gweithio mewn ffatri fomiau

Roedd y bomiau mortar o ffatri'r Brodyr Powell yn hollbwysig i'r brwydro yn y ffosydd.

Cwmni yn gwneud peiriannau amaethyddol a sefydlwyd yn y 19eg Ganrif oedd Powell Brothers yn wreiddiol. Ond yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf fe drodd y cwmni at gynhyrchu bomiau mortar ar gyfer gynnau Stokes.

Roedd bomiau o’r math yma’n rhan hollbwysig o’r brwydro yn y ffosydd. Yr hanesydd lleol Alister Williams sy’n esbonio mwy am y cwmni a’r gynnau Stokes yn y clip.

Y casys ar gyfer y bomiau mortar oedd yn cael eu creu ar y safle yn Wrecsam; fe fydden nhw wedyn yn cael eu llwytho ar y trên yn yr orsaf gerllaw a’u cludo i safleoedd eraill i gael eu llenwi â deunydd ffrwydrol.

Fel yn hanes nifer o ffatrioedd a gweithfeydd eraill roedd yna brinder gweithwyr wrth i nifer o ddynion ymrestru yn y lluoedd arfog. Fe gyflogwyd mwy a mwy o fenywod gan Powell Brothers ac erbyn 1918 roedd rhai cannoedd o fenywod yn gweithio yno.

Dioddefodd y teulu Powell fel cynifer o deuluoedd eraill oherwydd y Rhyfel Mawr. Fe laddwyd un o’r brodyr, Dafydd Emrys Powell, yn 1918.

Wedi’r rhyfel fe benderfynodd y teulu newid cyfeiriad a chynhyrchu beiciau modur yn hytrach na pheiriannau amaethyddol. Fe ddaeth y busnes yna i ben wedi ychydig flynyddoedd yn unig yn 1925.

Erbyn hyn cwmni sy’n gwerthu deunyddiau ar gyfer adeiladwyr sydd ar safle gwaith Powell Brothers.

Llun: Gweithwyr ffatri'r Brodyr Powell yn Wrecsam.
Lleoliad: Ffatri Powell Brothers, Gorsaf Reilffordd, Wrecsam, LL11.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

2 o funudau