Main content

Theatr Newydd, Caerdydd: Cerddoriaeth Ivor Novello

Lleoliad perfformiad nifer o sioeau Ivor Novello, cyfansoddwr 'Keep the home fires burning'

Stifyn Parry sy'n olrhain hanes Ivor Novello, y cyfansoddwr, dramodydd, ac actor ar lwyfan a ffilm o Gaerdydd.

Yn Theatr Newydd, Caerdydd, cafodd nifer o sioeau a chyngherddau gala yn cynnwys ei ganeuon eu perfformio.

Treuliodd Ivor Novello - neu David Ivor Davies - ei oes bron i gyd mewn awyrgylch gerddorol. Gweithiai'n ddi-baid, yn perfformio mewn ffilmiau neu ddramâu — llawer ohonynt o'i waith ei hun — weithiau'n ffilmio yn ystod y dydd ac ar lwyfan yn yr hwyr.

Dim ond 15 oed oedd e pan gyhoeddwyd ei gân gyntaf, ‘Spring of the year’ ac yna yn 1914, yn 21 oed daeth yn enwog fel cyfansoddwr ‘Keep the home fires burning’ i eiriau Lena Guilbert Ford.

Profodd y gân hon yn hynod boblogaidd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Ysgrifennodd a chyfansoddodd tua 60 o faledi a chaneuon, ‘We'll gather lilacs’ yn eu plith. Yn y cyfamser cyfansoddodd gerddoriaeth i'r sioe Theodore & Co., a ddaeth yn boblogaidd iawn yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Anfonwyd ef ar daith lwyddiannus i Sweden yn 1918 fel difyrrwr i wrth-wneud effaith propaganda Almaenig yn y wlad honno adeg y Rhyfel.

Ysgrifennodd a chymerodd ran mewn llawer o ddramâu eraill cyn troi at gyfansoddi miwsig i gomedïau cerdd gan ysgrifennu'r geiriau i rai ohonynt. Dyma ei weithiau mwyaf poblogaidd, gan ddechrau gyda Glamorous Night (1935), a'r seithfed a'r olaf, King's Rhapsody (1949) yn goron ar y cyfan. Gosodwyd penddelw ohono yn Theatre Royal, Drury Lane, a chofebau i nodi man ei eni yng Nghaerdydd a'i gartref yn Llundain lle y bu farw.

Lleoliad: Theatr Newydd, Caerdydd, CF10 3LN

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

2 o funudau