Main content

Tabernacl Treforys, Abertawe: Organ a Ffenestri i Gofio'r Milwyr

Yng nghapel Tabernacl, Treforys, ger Abertawe mae un o’r organau pib mwyaf yng Nghymru a ffenestri lliw hardd a osodwyd i gofio bechgyn y capel a laddwyd yn y Rhyfel Mawr

"Y capel mwyaf, y crandiaf a'r drytaf a adeiladwyd yng Nghymru". Dyna ddisgrifiad Anthony Jones o gapel y Tabernacl, Treforys, yn ei lyfr Welsh Chapels.

Yn y capel mae un o’r organau pib mwyaf yng Nghymru a ffenestri lliw hardd a osodwyd i gofio bechgyn y capel a laddwyd yn y Rhyfel Mawr.

Cafodd yr organ newydd dair-allweddell o 40 stop gan Hill, Norman & Beard ei gosod yn 1922 a’i hadfer eto gyda grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri yn 1998.

Cafodd y Tabernacl ei gynllunio fel y capel delfrydol o ran pensaernïaeth, maint a chyfleusterau a'i gwblhau yn yn 1872 ar gost syfrdanol o £18,000.

Y tu mewn, fe welwch chi waith cywrain y seiri coed mewn pren mahogani, gyda galeri'r côr yn disgyn yn serth tua'r pulpud a thri chasyn trawiadol i'r organ.

Ar ôl bwrlwm Diwygiad 1904 tyfodd aelodaeth y Tabernacl i 1059 o bobl yn 1910 a heddiw mae’r capel i’w weld yn aml ar raglenni fel Songs of Praise a Dechrau Canu, Dechrau Canmol.

Mae Côr y Tabernacl, a ffurfiwyd i ddechrau yn 1876, yn un o gorau hynaf Cymru heddiw ac yn dal i roi cyngherddau i gyfeiliant cerddorfa.
Bu Penfro Rowlands, cyfansoddwr yr emyn-dôn fyd-enwog Blaenwern, yn arweinydd 1892-1919.

Yn y clip yma cawn hanes yr organ a'r ffenestri gan David Gwyn John, ysgrifennydd y capel, a'r organydd Huw Tregelles Williams sydd wedi recordio rhai o'i hoff ddarnau o Oes Fictoria ac Edward ar yr organ hon i label Sain.

Lleoliad: Capel y Tabernacl, Treforys, Abertawe, SA6 8DA
Llun: Organ bib Capel y Tabernacl, drwy ganiatâd caredig y capel.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

4 o funudau