Main content

Ffatri Cookes, Penrhyndeudraeth, Gwynedd: Ffrwydriad mewn ffatri ffrwydron

Yn y clip yma cawn hanes ffrwydriad yn ffatri Cookes, Penrhyndeudraeth, yn 1915 drwy eiriau athrawes o Minffordd o'r enw Catherine Williams a ysgrifennodd lythyr am y digwyddiad at ei chyfneither.

Roedd y ffatri'n eiddo i Cookes Explosives Ltd ac yn creu ffrwydron ar gyfer y rhyfel gan roi hwb mawr i economi'r ardal ar y pryd. Fe gaeodd y ffatri yn 1997 ac mae nawr yn safle i warchodfa natur.

Does dim tystiolaeth swyddogol o’r digwyddiad yma gan nad oedd y wasg yn cael creu adroddiadau ar ddigwyddiadau’r o’r fath oherwydd eu cysylltiad ag ymgyrch y rhyfel. Ond diolch i lythyr Catherine Williams fe fedrwn ail-fyw digwyddiadau y diwrnod hwnnw yn 1915.

Aled Ellis sy’n trafod pwysigrwydd y ffatri.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

2 o funudau