Main content

Capel Saron, Penygroes, Gwynedd: Y Parch Cynddelw Williams yn ymrestru fel caplan yn y fyddin

Enillodd gweinidog Capel Saron y Groes Filwrol am gludo'r meirw a'r clwyfedig o faes y gad

Gweinidog Capel Saron, Penygroes, oedd y Parchedig David Cynddelw Williams. Fel nifer o weinidogion eraill yn 1914 fe ddaeth i'r casgliad bod y rhyfel yn un cyfiawn, er gwaethaf gwrthwynebiad amryw o’r capeli tuag at weithredoedd milwrol.

Fe wnaeth gais i ymrestru fel caplan ymneilltuol ym 'Myddin Lloyd George', sef yr adran newydd o'r fyddin a sefydlwyd ym Medi 1914 er mwyn annog mwy o Gymry i ymrestru. Dadleuodd Lloyd George yn y Cabinet bod yn rhaid sicrhau digon o gaplaniaid anghydffurfiol yn yr adran hon (nid dim ond rhai Anglicanaidd, yn wahanol i’r rhan fwyaf o gatrodau cyn y rhyfel) er mwyn denu mwy o ddynion Cymru i ymuno.

Yn 1915, wedi cyfnod o hyfforddiant, fe anfonwyd Cynddelw Williams i Ffrainc; roedd yn 45 oed bryd hynny, ac yn ystod ei gyfnod yn y fyddin fe welodd frwydro yn Ypres yn 1915, y Somme yn 1916 ac Arras yn 1917.

Teimlai fod ganddo waith pwysig i'w wneud gyda’r milwyr ar faes y gad. Roedd ei ddyletswyddau’n amrywiol; yn ogystal â chynnal gwasanaethau a chynnig cefnogaeth ysbrydol a bugeiliol i’r dynion roedd hefyd yn sensro llythyrau, yn gofalu am y llyfrgell ac yn dosbarthu sigaréts a sannau oedd wedi’u hanfon i’r ffrynt fel rhoddion. Fel mae’r hanesydd Bob Morris yn sôn yn y clip, bwriad Cynddelw Williams oedd gofalu am y dynion hyd eithaf ei allu.

Rhan anorfod o swydd caplan yn y fyddin oedd cynnal angladdau a gwasanaethu’r rhai oedd wedi eu clwyfo. Yn ôl ei ddehongliad ef roedd hyn yn cynnwys cyrchu’r rhai anafwyd neu laddwyd o 'dir neb'. Roedd Cynddelw Williams yn benderfynol o sicrhau claddedigaeth barchus i bawb oedd dan ei ofal, er gwaetha’r peryglon.

Fe enillodd y Groes Filwrol am arwain 'stretcher party' trwy ddwy filltir o ffosydd a thros filltir o dir agored y Somme, dan amgylchiadau peryglus iawn.

Fe gadwodd ddyddiadur trwy gydol y rhyfel, gan ysgrifennu adroddiadau hefyd i'r Goleuad, papur newydd y Methodistiaid Calfinaidd.

Fe ddychwelodd Cynddelw Williams i Gymru ddiwedd 1917, gan fynd yn gaplan yng ngwersyll milwrol Cinmel yn Sir y Fflint ac yna yn Shoreham-on-Sea. Yn y gwersylloedd fe ddechreuodd anobeithio wrth weld difaterwch y dynion ifanc tuag at grefydd. Fe barhaodd fel caplan am gyfnod wedi’r rhyfel, cyn derbyn galwad fel gweinidog ar gapel Jerusalem, Penmaenmawr. Mae ei ddyddiadur rhyfel yn gorffen pan ddaeth ei wasanaeth milwrol i ben ym Medi 1919.

'Dyw Capel Saron - capel y Methodistiaid Calfinaidd - ddim yno bellach. Fe chwalwyd y capel pan unodd yr achos gyda Chapel Bethel ac fe godwyd adeilad newydd sbon, Capel y Groes, ar y safle.

Lleoliad: Safle Capel Saron, Heol Buddug, Penygroes, LL54 6HD
Llun: Yr hen Gapel Saron ar safle Capel y Groes heddiw.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

3 o funudau