Main content

Castell Bodelwyddan, Sir Ddinbych: Ffosydd ymarfer Gwersyll Parc Cinmel

Ffosydd ymarfer Gwersyll Parc Cinmel

Gwersyll hyfforddi ar gyfer milwyr oedd Parc Cinmel yn Sir Ddinbych.

Roedd yn rhaid i’r milwyr aeth drosodd i Ffrainc a Gwlad Belg ddygymod gyda byw yn y ffosydd yn ogystal â dysgu sut i ymladd. Felly cyn iddyn nhw fynd roedd angen hyfforddiant arnyn nhw ac fe sefydlwyd rhwydwaith o wersylloedd milwrol ar draws Prydain er mwyn darparu hyn.

Adeiladwyd y gwersyll yn 1914 ac roedd yna linell rheilffordd yn ei gysylltu â gorsaf y Foryd yn y Rhyl.

Naws Gymreigaidd iawn oedd ym Mharc Cinmel ar y dechrau gyda llu o filwyr o Gymru yn hyfforddi yno. Roedd y Cadfridog Owen Thomas (un o brif arweinwyr y ‘Welsh Army Corps’) yn bennaeth ar y gwersyll am gyfnod. Ond wrth i’r gwersyll ehangu, ac wrth i’r rhyfel ei hun ehangu, fe ddirywiodd naws Gymreig y ganolfan.

Mae olion rhai o’r ffosydd ymarfer oedd yn rhan o’r gwersyll i’w gweld o hyd ar dir Castell Bodelwyddan. Prif bwrpas y ffosydd ymarfer oedd nid i ddysgu’r milwyr sut i ymladd, ond i’w dysgu sut i fyw o ddydd i ddydd mewn ffos – sut i gloddio ffos, sut i gryfhau’r amddiffynfedd a gosod systemau cyfathrebu a hyd yn oed sut i baratoi bwyd.

Yn y clip sain mae Medwyn Parry o Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn esbonio mwy am fwriad a defnydd ffosydd ymarfer Gwersyll Parc Cinmel.

Ar ddiwedd y rhyfel fe fu milwyr o Ganada yn byw yn y gwersyll, tra’n aros i gael eu hanfon adre. Ym mis Mawrth 1919 fe fu yna miwtini wrth i’r milwyr brotestio yn erbyn yr amodau byw ym Mharc Cinmel.

Lleoliad: Tir Castell Bodelwyddan, LL18 5YA
Llun trwy ganiatâd Castell Bodelwyddan.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

2 o funudau