Main content

Neuadd Dwyfor, Gwynedd: Llais Swynol Leila Megàne

Bu'r gantores o Gymru, Leila Megàne, yn canu i filwyr claf yn Ffrainc yn ystod y rhyfel

Roedd y gantores opera o Gymru, Leila Megàne, yn astudio ym Mharis yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf pan gafodd wahoddiad gan y Conswl Prydeinig i ganu i’r milwyr claf yn Ysbyty'r Milwyr Prydeinig, Versailles.

Roedd cyflwr a lles y milwyr yn ei gofidio ac roedd yn llythyru’n rheolaidd gyda thair o'i chwiorydd adref ym Mhwllheli i ddilyn hanes ei brawd Thomas Jones, oedd yn llongwr yn y rhyfel. Er mawr syndod iddi, daeth ar ei draws ar un o'i hymweliadau â’r ysbyty. Doedd hi ddim wedi ei weld ers pedair blynedd.

Dywedodd ei bod yn falch iawn o’r ffaith ei bod hi wedi gallu dod a chydig o fwynhad i’r milwyr oedd wedi eu clwyfo.

Cafodd Leila ei magu ym Mhwllheli lle roedd ei thad yn arolygydd gyda’r heddlu ac yno y cafodd ei blas cyntaf ar ganu a pherfformio. Mae plac ar wal adeilad y Police House yn y dref yn dweud ei bod wedi ei magu yno ac yn ei disgrifio fel 'Cantores Byd Enwog.'

Roedd yn mynd gyda'i mam i gyngherddau yn Neuadd Dwyfor, sef neuadd y dref bryd hynny, i wrando ar gantorion enwog y dydd. Fe gafodd eu perfformiadau ddylanwad mawr ar y ferch fach a dyfodd i fod yn un o leisiau contralto mwyaf cyfoethog y cyfnod.

Roedd wedi cael help neb llai na’r Prif Weinidog David Lloyd George i fynd i Baris i astudio ac yno y dechreuodd hi ddefnyddio’r enw llwyfan Leila Megàne. Cyn hynny, Margaret Jones oedd hi.

Er iddi ganu yn Monte Carlo, Milan, Moscow, Efrog Newydd a Llundain wedi’r rhyfel yn ôl i Bwllheli y daeth hi i fyw gan gynnal sawl cyngerdd ei hun yn Neuadd Dwyfor wedi hynny.

Ilid Anne Jones, awdures y gyfrol ‘Anwylyn Cenedl’ am fywyd Leila Megàne fu draw yn Neuadd Dwyfor yn siarad amdani.

Lleoliad: Neuadd Dwyfor, Pwllheli, Gwynedd, LL53 5DE
Llun o Leila Megàne ar y llwyfan drwy garedigrwydd y Llyfrgell Genedlaethol

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

2 o funudau