Main content

Llanfairpwll, Ynys Môn: Cangen Gyntaf Sefydliad y Merched

Dechreuwyd Sefydliad y Merched ym Môn yn 1915 gan helpu teuluoedd yn ystod y rhyfel

Ym mis Medi 1915 sefydlwyd cangen o Sefydliad y Merched yn Y Graig yn Llanfairpwll. Dyma gangen gyntaf y sefydliad ym Mhrydain.

Roedd Sefydliad y Merched - y WI (Women's Institute) - yn bwysig iawn yn ystod y rhyfel.

Yn ogystal â helpu i godi arian i'r milwyr a'u teuluoedd roedden nhw'n helpu mewn ffyrdd ymarferol ac oddi yno mae’r cysylltiad efo jam yn dod heddiw meddai'r hanesydd lleol, Gerwyn James.

"Yn 1915/1916 roedd 'na brinder bwyd felly roedd rhaid bod yn hynod ddarbodus efo bwyd. Felly beth ydych chi'n ei wneud efo'r holl ffrwythau a'r llysiau yma? Wel yr ateb ydy eu troi nhw'n jam neu'n nionod picl," meddai Mr James sy'n siarad yn y clip gydag Audrey Jones, Cadeirydd Sir Ynys Môn Ffederasiwn Sefydliad y Merched.

Roedd gwreiddiau’r mudiad yng Nghanada, ac mewn cynhadledd ym Mangor ym mis Medi 1915, fe fu Mrs Madge Watt o Ganada yn trafod gwaith y mudiad. Aeth hi ati i annog merched Cymru i ddod at ei gilydd a'i bwriad oedd rhoi addysg iddyn nhw.

Ar ôl y cyfarfod yma fe wnaeth y Cyrnol R.S.G Stapleton-Cotton a’i wraig, Jane Stapleton-Cotton, wahodd Mrs Watt i siarad mewn cyfarfod cyhoeddus yn Llanfairpwll. Ar ôl sefydlu’r gangen, ac oherwydd y sefyllfa amaethyddol a’r prinder bwyd, fe fu’r merched yn weithgar iawn yn cefnogi yr ymdrech filwrol.

Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf mewn tŷ o’r enw Y Graig – sydd dafliad carreg o adeilad y mudiad heddiw.

Bu’r merched yn cyfarfod yno tan 1921, ac ar ôl codi arian fe aethon nhw ati i godi eu hadeilad eu hunain sydd wedi ei gysylltu â’r tolldy yn y pentref. Fe roddwyd y tir iddyn nhw gan Ardalydd Môn.

Lleoliad: Y Graig, cartref cyntaf Sefydliad y Merched, Llanfairpwllgwyngyll, LL61.
Llun drwy garedigrwydd Ffederasiwn Sefydliad y Merched, Môn.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

2 o funudau