Main content

Glyn Evans - La Trochita - bywyd yn drên

Stori am daith ar y trên 'La Trochita' ym Mhatagonia sydd gan Glyn Evans...

"A fyddan nhw hefyd, wrth edrych drwy eu halbyms yn holi eu hunan - pwy goblyn o'dd o tybad?"

Stori am daith ar y trên ym Mhatagonia sydd gan Glyn Evans...

Glyn Evans:

Esquel:

"Ydych chi'n cymryd maté?"

Dwi'n meddwl mai dyna ddywedodd y ddynes er mai dim ond y gair 'maté' wnes i ddeall. Mi gymris i'r cwpan a sugno diod cyfeillgarwch yr Archentiaid, beth bynnag, a chael fy nhynnu i gymdeithas dwsin o ferched hwyliog, swnllyd, ar wyliau o dueddau Buenos Aires.

Yn treulio chwe mis ymhlith Cymry Patagonia, yr oeddwn wedi neilltuo diwrnod i deithio ar El Viejo Expreso Patagonico - yr Old Patagonian Express. La Trochita i'w ffrindiau.

Taith 237 o gilometrau llafurus ac araf ar gyflymdra mwyaf o 37 milltir yr awr o Esquel drwy Nahuel Pan, Lepa a Leleque i El Maiten mewn chwe awr a chwarter.

Cyn cychwyn, mae'r gyrrwr a'r taniwr yn gosod saig o gig dafad uwchben yr injian i'w goginio ar y ffordd!

Wrth i'r trên duchan o Esquel mae yna lot o ganu corn a chwythu aer a mwg. Rhesi o blant yn codi llaw wrth inni basio.

Lepa:

Yn yr hen ddyddiau byddai dau ddyn ar gefn ceffyl yn canlyn y trên gydag un yn mynd i chwilio am help pan fyddai'n torri. Heddiw, dau ddyn mewn picyp gwyn sydd yna - yn cyrraedd pob stesion cyn y trên!

Cyn gadael Lepa trôdd y gyrrwr y cig - i'r ochr arall gael coginio.

Mae pryd mwy traddodiadol o Empanadas yn y car bwyta lle mae'r deuddeg o wragedd llawn o ysbryd gwyliau heb na Chymraeg na Saesneg yn mynnu tynnu sgwrs efo Cymro heb bill o Sbaeneg a chwarae gêm o Trwco.

LeLeque:

Mae'r cig yn barod i'w fwyta - gyda gwin yn syth o'r botel i'w olchi tra bo teithwyr yn 'stwytho'u coesau.

Heb iaith gyffredin - ar wahân i chwerwedd melys y maté a'r cusanau cyfarch wrth gyfnewid enwau - daeth y merched hwyliog a'r Cymro unig mewn gwlad ddieithr yn ffrindiau calon.

Tybed ydyn hwythau hefyd wrth edrych yn eu halbyms yn holi'i hunain, "Pwy goblyn oedd o tybed?".

Mae'r ffarwelio a'r anwesu a'r codi dwylo yn awr yn dwymgalon wrth inni wahanu - y nhw yn parhau a'u taith a minnau i'm cludo gan y picyp gwyn i ddal bws yn ôl i Esquel.
Taith o 'chydig dros awr o gymharu ag oriau'r trên.

Ond does yna ddim merched hwyliog na maté na chwerthin a thynnu coes ar fws... Na darn o gig i'r dreifar dros yr injian. Mae ei sangwijis o yn sychu yn y gwres wrth ochr y sied - a swn corn La Trochita a'r chwerthin hwyliog yn hongian fel niwl dros y paith.

Holi Glyn Evans:

Beth yw eich hanes chi Glyn?

Rwy'n newyddiadurwr yn wreiddiol o Landegfan, Sir Fôn, ond yn awr yn byw ym Mhrestatyn. Ar ôl cyfnod yn gweithio fel Golygydd gyda'r 'Cymro' fe wnes i dreilio chwe mis yn y Wladfa ym Mhatagonia.

Pam y bendefynoch siarad am y daith arbennig yma?

Profodd taith ar yr Old Patagonian Express o Esquel i El Maiten ei bod yn bosib gwneud ffrindiau heb iaith gyffredin. Roedd rhyw syniadau rhamantus am y rheilffordd hon - mae swyn arbennig i hyd yn oed yr enw, Old Patagonian Express - a diddordeb mewn ymwneud pobl gyda'i gilydd.

Wnaethoch chi fwynhau'r profiad o wneud stori ddigidol?

Mwynheais. Yr oedd yn ymarfer da gorfod llunio sgript gryno a phriodi honno i luniau. Yr oedd dysgu medrau cyfrifiadurol newydd hefyd yn fonws.

Release date:

Duration:

3 minutes