Rhodri Pugh - Y Gnoc!
Dyw Rhodri Pugh ddim yn hollol siwr hyd heddiw beth oedd y digwyddiad ag arweiniodd ato'n dihuno mewn ysbyty...
Dyw Rhodri ddim yn hollol siwr hyd heddiw beth oedd y digwyddiad ag arweiniodd ato'n dihuno mewn ysbyty...
Rhodri Pugh:
Agorais fy llygaid yn araf i glywed y geiriau, "Do you know where you are sir?"
"Pontardawe" atebais yn sicr.
"Uh. No. You're in Llanelli hospital."
Roeddwn yn teimlo'n eithaf dryslyd, ac oherwydd y poen, roeddwn yn sicr bod rhywbeth yn bod arnaf. Yn araf, ro'n i'n cofio popeth - y twrnament, y gêm a'r gnoc.
Twrnament saith-bob-ochr y WRU yn Parc y Strade. Diwrnod cyffredin i rai, ond dydd cofiadwy i mi. Gêm gyffrous, ond deg munud mewn i'r hanner cynta' rydym yn colli deg i ddim. Roeddwn eisiau gwneud rhywbeth amdano, felly cefais y bel, rownd un dyn, sgipio heibio'r llall ond wedyn daeth cawr o foi allan a... bang!
Rwy'n cofio dihuno eiliadau wedi'r gnoc a meddwl - Aw! Ond roeddwn yn 'concussed' am hanner awr. Panig ddaeth i'm feddwl gyntaf, oherwydd roeddwn yn methu symud fy nghorff. Roeddwn yn becso fy mod i wedi fy mharlysu. Teimlais fy hun yn chwysu ac aeth popeth yn ddu.
Y peth nesaf rwy'n cofio oedd dihuno yn yr ysbyty a derbyn y newyddion fy mod i wedi cael fy hedfan mewn hofrennydd - o'n i wastad moyn hedfan mewn hofrennydd a fi'n ddiymadferth drwy'r holl beth. Typical!
Gorweddais yn y gwely yn meddwl am yr holl beth, pan ddaeth Dad i mewn a gofyn os oeddwn i yn iawn. Atebais gan ysgwyd fy mhen ychydig, ond yn sydyn roedd poen yn saethu i lawr fy nghefn - wnes i chwerthin ychydig gan ddweud, 'Ie, grêt.'
Am uffach o ddiwrnod - ca'l 'concussion', reid mewn helicopter a'r tîm rygbi yn colli 30-10! Ond diolch byth o'n i'n iawn a dwi'n ffaelu aros i'r tymor nesaf i ddechrau.
Holi Rhodri:
Dywedwch rywfaint o'ch hanes.
Rwy'n aelod o chweched dosbarth yn ysgol Ystalyfera, ac yn aelod o sgwad Rybgi 1af yr ysgol a'r c�Fy niddordebau yw chwaraeon, gwylio ffilmiau a chyfrifiaduron. Rwy'n gobeithio mynd i'r coleg i astudio Gwleidyddiaeth blwyddyn nesaf.
Beth yw pwnc eich stori?
Mae'r stori yn disgrifio fy namwain ar y cae rygbi. Roeddwn yn chwarae saith-bob-ochr i'r ysgol yng nghystadleuaeth yr Urdd ac Undeb Rygbi Cymru yn Llanelli. Cefais gnoc ar fy ngwddf a bum yn anymwybodol.
Es i mewn hofrennydd i ysbyty Treforus. Cafodd fy rhieni ofn ofnadwy, ond diolch byth roeddwn yn OK - dim ond 'concussion'.
Dewisais greu y stori yma oherwydd dyma un o'r pethau mwyaf ofnus sydd wedi digwydd i mi. Un o fy uchelgeisiau oedd cael tro mewn hofrennydd - ond nid fel hyn!
Beth oedd eich profiad o wneud stori ddigidol?
Roedd yn brofiad ardderchog. Dysgais nifer o sgiliau newydd am waith technegol cyfryngau. Mwynheuais gosod y tros-lais yn fawr iawn a gweld y ffilm yn dod at ei gilydd yn y diwedd.
Duration:
This clip is from
More clips from Cipolwg ar Gymru
-
Shirley G Williams - Seren Wîb
Duration: 01:11
-
Charles Cochrane - Arian heb sglein
Duration: 01:17
-
Keith O'Brien - Tu hwnt i'r drws
Duration: 02:22
-
Emily Evans - TÅ· Gwyn
Duration: 02:53
More clips from Â鶹ԼÅÄ Cymru
-
Agor adeilad newydd y Cynulliad
Duration: 02:09
-
Refferendwm datganoli 1997
Duration: 02:31
-
Protestiadau Tryweryn 1965—Â鶹ԼÅÄ Cymru
Duration: 01:54
-
Ynys Enlli—Clipiau Dysgu, Dysgu
Duration: 01:00