Main content

Olwen Davies - Cyfoeth Tlodi

Mae hanes Olwen Davies yn un rhyfeddol. Dyma gipolwg o brofiadau a thlodi y tridegau trwy lygaid plentyn yn tyfu i fyny yn Llanberis.

Holi Olwen Davies:

Beth yw eich hanes chi Olwen?

Cefais i'n addysgu yn Ysgol Brynrefail ac yna ymlaen i Goleg y Brifysgol ym Mangor. Rwyf wedi ymddeol yn awr ar Γ΄l dysgu am 38 o flynyddoedd.

Beth yw pwnc eich stori?

Mae fy stori yn sΓ΄n am fy mhlentyndod cynnar ar Γ΄l marwolaeth fy mam a thlodi'r tridegau.

Pam wnaethoch chi benderfynu cyfleu hyn yn eich stori ddigidol?

Roeddwn yn meddwl fod yr hanes yn 'wahanol' ac roeddwn i am i bobl wybod sut oedd petha' pan o'n i'n blentyn.

Sut aeth pethau yn y gweithdy?

Yr oeddwn yn hollol anwybodus a heb gallu technegol. Bu'n rhaid i mi gael cymorth bob cam o'r ffordd - i greu sgript ac i lunio'r stori ar y cyfrifiadur.

Serch hynny, fe fwynheuais y profiad yn arw, yn enwedig y cydweithrediad amyneddgar gan bawb.

Release date:

Duration:

3 minutes