Main content

Janet Roberts - Taid 'Hello'

Mae Janet Roberts yn edrych yn ôl ar ei phrofiadau yng nghwmni ei thedi - y tedi a dderbyniodd wrth dyn arbennig, ei thad.

Mae Janet Roberts yn edrych yn ôl ar ei phrofiadau yng nghwmni ei thedi - y tedi a dderbyniodd wrth dyn arbennig, ei thad.

Janet Roberts

Mae gan y plant ddau daid. Taid Helo oedd un - ffarmwr rhadlon braf o flaenor Methodus o Ben LlÅ·n a Chymro. Taid Hello oedd y llall - ac roedd ei gefndir a'i iaith yn go wahanol i un Taid Helo.

Sais o Lannau Merswy oedd ef, fy nhad ac fe symudodd i Ddolgellau ar hap bron ac aros yno. Priodi â Mam yn ddiweddarach ac mi brynodd Dad y tedi yma i mi cyn i mi gael fy ngeni hyd yn oed!

Mi awn innau â'r Tedi i'm canlyn i bob man, hwnnw'n swatio'n saff dan fy nghesail. Mi o'n i'n prynu anrhegion i Dad hefyd ond pob 'Dolig yr un oedd y dewis. Peli golff wedi'u pacio'n flêr ac 'Old Spice'. Dad druan yn gorfod dyfalu bob bore 'Dolig beth oedd yr anrhegion - ond doedd hi fawr o gamp nac o syrpreis iddo!

Ond mi fynnodd Dad ddefnyddio 'Old Spice' ar hyd y blynyddoedd er i mi geisio'i ddarbwyllo pan o'n i'n hÅ·n iddo ddefnyddio rhywbeth ychydig yn fwy modern!

Mi fuodd o'n ffyddlon i oglau melys y sbeis lenwi'r ystafell 'molchi wrth iddo baratoi i fynd allan. A'r un oglau cyfarwydd oedd yn fy nghroesawu i adref bob amser.

Bu farw Dad dros chwe' mlynedd yn ôl bellach a mawr yw'r hiraeth ar ei ôl. Dwi'n cofio nôl ei fag o'r Ysbyty. Cyrraedd adra', gosod y bag ar y gwely, ei agor yn araf ac yn syth, llenwodd fy myd ag oglau melys 'Old Spice' unwaith eto. Na, doedd Dad ddim yno ac eto roedd ei hogla' arbennig yno.

Newidiodd Dad fawr ddim ar ei arferion ar hyd ei oes ac yn sicr Sais oedd o i'r diwedd, a hynny ar ôl hanner can mlynedd yn Nolgellau.

Ond roedd yr 'Hello' yma yn fodlon i mi a'r plant fod yn Helo, a diolch iddo fo am hynny.

Gwatchiwch allan Ant & Dec, byddai'n dwyn eich swyddi cyn bo hir!

Holi Janet Roberts:

Dywedwch rywfaint o'ch hanes.

Rwyf yn gyn-athrawes a mam i dair o ferched. Bellach, rwy'n gweithio fel cydlynydd stiwdio i'r Â鶹ԼÅÄ ym Mangor.

Am beth mae eich stori yn sôn?

Mae'r stori am fy nhad - taid 'hello' -chwedl y plant. Roedd hefyd yn hoff o 'Old Spice' ac mae'r stori yn rhyw deyrnged fach iddo fo.

Beth oedd eich profiad o wneud stori ddigidol?

Roeddwn i wedi mwynhau'r profiad a wnes i ddysgu llawer. Roedd y profiad braidd yn anodd ar adegau gan fod adrodd y stori yma wedi dod â chymaint o atgofion byw yn ôl i mi.

Release date:

Duration:

3 minutes