Nanw Roberts - Iahŵ Lasŵ
Er mor anodd oedd hi i Nanw wireddu'i breuddwyd o gael ceffyl, doedd dim byd o'i le gyda chynllun ei Mam wedi'r cyfan...
Er mor anodd oedd hi i Nanw wireddu'i breuddwyd o gael ceffyl, doedd dim byd o'i le gyda chynllun ei Mam wedi'r cyfan...
Nanw Roberts:
Dwi 'di bod yn dipyn o gowboi erioed.
Reidio ceffylau yn Ty Hen Llangwnad ddechreuodd y peth... a dwad adre bob tro yn swnian isio ceffyl.
"Be' 'nei di â pheth felly?" medda' Mam. "Fasa' well i ti gael mul! Os heli 'di dy brês, mi gei di un!"
Wel am dasg! Heblaw am f'ewythr Gruffydd 'swn i byth 'di ei g'neud hi. "Gei di weithio i mi yn carthu'r beudy a ballu," medda' fo.
Ond tra ro'n i'n hel pres, ges i fenthyg Sam, mul unigryw o Abersoch.
Wel dyma i chi fêt os buodd na un erioed! Ond eto, doedd o'm yn ful i mi.
Eistedd yn y gwely bob nos, yn darllen 'Exchange and Mart' nes ffeindio mul ar werth am bum punt ar hugain... Ac am fod y pwrs yn llawn, roedd yn rhaid i mam a 'nhad gadw at eu gair a nôl y mul.
Gwirionodd fy nhad ar ei ben... a phrynu un arall iddo'i hun. Mi fu Ffred a Prins yn fêts mawr efo Sam am hir iawn... a finna y cowboi hapusa' ym Mhen Llŷn!
Holi Nanw Roberts:
Dywedwch rywfaint o'ch hanes.
Rwy'n wreiddiol o Ben Llŷn ac yn hoffi cynghaneddu ac ysgrifennu caneuon. Rwyf wedi gweithio fel athrawes ail-iaith ond erbyn hyn yn gwneud gwaith marchnata i amryw o gwmniau. Rwy'n hoffi ysgrifennu storïau ffantasi i blant a chwarae gitâr clasurol.
Am beth mae eich stori yn sôn?
Un cipolwg fach ar fy mhlentyndod yw'r ffilm - fy nghariad tuag at fy hoff anifail sef mul! Roeddwn eisiau modd i gofnodi y darn pwysig yma yn fy mywyd. Roedd yn gyfnod braf a chyfle i rannu hwnnw gyda'r byd oedd y stori.
Beth oedd eich profiad o wneud stori ddigidol?
Mwynheuais y cyfle yn fawr iawn- lot o hwyl! Doeddwn i erioed wedi geisio gwneud stori ddigidol o'r blaen - felly menter newydd sbon!
Duration:
This clip is from
More clips from Cipolwg ar Gymru
-
Rhodri Pugh - Y Gnoc!
Duration: 02:16
-
Shirley G Williams - Seren Wîb
Duration: 01:11
-
Charles Cochrane - Arian heb sglein
Duration: 01:17
-
Keith O'Brien - Tu hwnt i'r drws
Duration: 02:22
More clips from Â鶹ԼÅÄ Cymru
-
Agor adeilad newydd y Cynulliad
Duration: 02:09
-
Refferendwm datganoli 1997
Duration: 02:31
-
Protestiadau Tryweryn 1965—Â鶹ԼÅÄ Cymru
Duration: 01:54
-
Ynys Enlli—Clipiau Dysgu, Dysgu
Duration: 01:00