Abi Johnson - Bywyd ar y fferm
Er mor anodd yw gwaith fferm, mae Abi Johnson yn ymhyfrydu ar edrych ar ffrwyth yr holl waith caled. Cafodd y stori yma ei chreu ar Weithdy Ffonau Symudol, Chwefror 2008.
Er mor anodd yw gwaith fferm, mae Abi Johnson yn ymhyfrydu ar edrych ar ffrwyth yr holl waith caled.
Cafodd y stori yma ei chreu ar Weithdy Ffonau Symudol, Chwefror 2008.
Abi Johnson:
Wel, ar fferm mae'n bwysig iawn bod pawb yn gweithio hefo'i gilydd. Os ydi neb yn gweithio hefo'i gilydd ma pethau'n medru mynd yn fler, felly mae angen help pawb.
Rhaid i chi godi weithiau am chwarter wedi pump er mwyn mynd allan i gael golwg ar y defaid i sicrhau nad oes trafferth gyda'r wyn a phethau fel 'na.
Ar ddiwedd y dydd, y fferm sy'n dod yn gyntaf, dim chi. Nid ydych yn cael jyst dweud "Dwi'n brysur heddiw, dwi ddim yn gallu helpu."
Mae'n rhaid i chi roi amser i chi'ch hun hefyd ond y fferm sy'n dod yn gynta' bob amser.
Ma'n rhaid i bawb weithio'n galed iawn ar y fferm achos ma gennych chi eifr i fwydo; rhaid i chi newid eu dΕµr nhw, rhaid rhoi glaswellt iddyn nhw bob bore a gwneud yn siΕµr bod eu gwelyau nhw'n gynnes ac yn neis.
Mae gennym ni hwyaid hefyd sy'n gwneud llawer o lanast ymhob man hefo'r ieir ac ma nhw'n gwneud lot o sΕµn hefyd. Ma cΕµn defaid angen llawer o help.
Mae gennym ni gΕµn bach sydd angen mynd am dro dwywaith y dydd ac angen cael eu bwydo dwywaith y diwrnod. Ma gennym ni 'derriers' a ma' rheina yn ymladd fel y goblyn hefo cΕµn defaid hefyd!
Mae'n neis gweithio ar y fferm achos rydych yn cael cyfrifoldeb a rhaid i chi edrych ar Γ΄l yr anifeiliaid. Dwi'n ni'n cael llawer o hwyl hefyd.
Mae'r lle rydyn ni'n byw ynddo yn brydferth iawn. Mae yna lawer o goed o gwmpas a phan mae yna storm ac mae'r coed yn ysgwyd, mae'n rili neis yma. Beth bynnag ydy'r tywydd mae'n neis ac yn le hyfryd i fyw ynddo.
Pan dwi'n henach dw i eisiau bod yn filfeddyg. Does gen i ddim llawer o ddiddordeb mewn dim byd arall. Dwi eisiau teithio'r byd hefyd a gweld llefydd fel y Ffindir a Seland Newydd. Dwi eisiau mynd i Tibet a gweld Everest a phethau felna.
Dw i eisiau cael gweld pethau cyn i fi orfod setlo lawr. Dwi'n edrych ymlaen at y dyfodol, dwi wedi cynllunio pob peth!
Holi Abi:
Dywedwch rywfaint o'ch hanes.
Fy enw i yw Abi. Dwi'n 13 oed ac yn byw ar fferm. Rwy'n hoff iawn o ffermio a dwi'n hoffi chwaraeon fel gymnasteg a phel rhwyd.
Beth yw pwnc eich stori?
Mae'r stori am fy mywyd ar y fferm a pha mor galed rydych chi'n gorfod gweithio. Mae fy mywyd wedi ei adeiladu o gwmpas y fferm ac mae'n bwysig iawn i mi.
Beth oedd eich profiad o wneud stori ddigidol?
Wnes i fwynhau gwneud y stori ac yn hoffi'r profiad o ffilmio.
Duration:
This clip is from
More clips from Cipolwg ar Gymru
-
Rhodri Pugh - Y Gnoc!
Duration: 02:16
-
Shirley G Williams - Seren WΓ®b
Duration: 01:11
-
Charles Cochrane - Arian heb sglein
Duration: 01:17
-
Keith O'Brien - Tu hwnt i'r drws
Duration: 02:22
More clips from Βι¶ΉΤΌΕΔ Cymru
-
Agor adeilad newydd y Cynulliad
Duration: 02:09
-
Refferendwm datganoli 1997
Duration: 02:31
-
Protestiadau Tryweryn 1965—Βι¶ΉΤΌΕΔ Cymru
Duration: 01:54
-
Ynys Enlli—Clipiau Dysgu, Dysgu
Duration: 01:00