Will Owen - Tanio'r Dychymyg
Mae dychymyg Will Owen yn cael ei danio wrth weld eitem o eiddo ei dad.
Mae dychymyg Will yn cael ei danio wrth weld eitem o eiddo ei dad.
Will Owen:
I'r India aeth fy nhad yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn ddeunaw oed aeth allan gyda'r 'South Wales Borderers' ac wedyn dod yn Γ΄l yn ddwy ar hugain. Diolch i'r drefn nad oedd e wedi mynd i'r ffosydd yn Ffrainc neu fe allai fod wedi'i anafu, neu drengi hyd yn oed.
Dwi'n cofio pan o'n i'n bump oed, ac agor drΓ΄r dresel fy nain a dod o hyd i focs dal matsys, wrth iddo fo a'i gyd-filwyr adael India ar ddiwedd y Rhyfel Mawr.
Roedd fy Nhad a minnau'n ffrindiau mawr, a 'swn i'n mynd mor bell dweud mai fo oedd fy ffrind gora. Ond prin oedd yr adega' oedd o'n siarad am ei brofiadau yn y Rhyfel.
Wnes innau ddim gofyn rhyw lawer chwaith - roedd o'n haws i'r ddau ohonom adael y gorffennol a'r atgofion i orffwyso gyda'r meirw.
Ond hyd heddiw, dwi'n edrych ar y bocs dal matsys hwn ac mae'n tanio'r dychymyg wrth feddwl am yr erchyllderau wynebodd fy nhad a chymaint o rai eraill yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Holi Will Owen
Allwch chi ddweud rhywfaint amdano'ch hun.
Peiriannydd wedi ymddeol yn hoff o ddysgu ieithoedd estron ydw i. Rwy'n gallu siarad Eidaleg yn weddol rhugl. Rwy'n hoff hefyd o ddarllen, sgwennu a cherddoriaeth. Rwy'n aelod o GΓ΄r Meibion y Traeth, Ynys MΓ΄n ers 34 mlynedd.
Beth yw pwnc eich stori?
Hanes bocs matsys anghyffredin fy Nhad. Dewisais y stori yma er cΓ΄f am fy ffrind gorau - fy nhad.
Beth oedd eich profiad chi o wneud stori ddigidol?
Diddorol iawn i'w gwneud ac mi oedd yn dda cyfarfod ΓΆ chymaint o bobl gwbl gwahanol. Cefais oriau hapus a dedwydd yn eu cwmni.
Duration:
This clip is from
More clips from Cipolwg ar Gymru
-
Rhodri Pugh - Y Gnoc!
Duration: 02:16
-
Shirley G Williams - Seren WΓ®b
Duration: 01:11
-
Charles Cochrane - Arian heb sglein
Duration: 01:17
-
Keith O'Brien - Tu hwnt i'r drws
Duration: 02:22
More clips from Βι¶ΉΤΌΕΔ Cymru
-
Agor adeilad newydd y Cynulliad
Duration: 02:09
-
Refferendwm datganoli 1997
Duration: 02:31
-
Protestiadau Tryweryn 1965—Βι¶ΉΤΌΕΔ Cymru
Duration: 01:54
-
Ynys Enlli—Clipiau Dysgu, Dysgu
Duration: 01:00