Lowri Smith - Boris, Henri a Fi
Merch ysgol yw Lowri Smith. Tra bod eraill yn yr ysgol yn diddori yn enwogion y byd pop, diddordeb tra gwahanol sydd gan Lowri...
Merch ysgol yw Lowri Smith. Tra bod eraill yn yr ysgol yn diddori yn enwogion y byd pop, diddordeb tra gwahanol sydd gan Lowri...
Lowri Smith:
Mae rhan fwyaf o'n ffrindiau i'n hoffi Robbie Williams a Lemar... ond mae'n well gen i ieir!
Dwi'n gwybod ei fod o'n swnio'n wirion, ond mae o'n wir. Pan o'n i'n ddeuddeg, ges i geiliog a thair i?yn anrheg 'Dolig. Syrpreis gan fy rhieni oedd Boris, Sooty, Flopsy a Mopsy a byth ers hynny dwi wedi gwirioni arnyn nhw.
Yn anffodus, roedd yn rhaid cael gwared o Boris oherwydd ei fod yn 'styfnig iawn, fel pob dyn!
Wedi iddo fo fynd, daeth Henry i fyw aton ni... ac er ei fod o'n dipyn mwy ciwt, roedd o'n real babi mam. Dwi'n cofio unwaith, daeth y ci diarth yma o rywle a hel y ieir. A dyna lle oedd Henry ar ben y to, a'r ddwy iar, Minnie a Jemima, yn ei warchod. Typical!
Efallai fod rhan fwyaf o'n ffrindiau i yn hoffi Robbie a Lemar, ond yn bersonol, mae'n well gen i gwmni Henry, Minnie a Jemima... ac ma' nhw'n canu'n well!
Holi Lowri Smith:
Dywedwch rywfaint o'ch hanes.
Rwy'n ferch 17 oed, yn byw mewn hen ysgol gyda fy rhieni a fy nwy chwaer ieuengaf. Rwy'n astudio Astudiaethau Crefyddol, Cymdeithaseg a Bioleg i'm lefelau AS ar hyn o bryd.
Gan fod yr ysgol yn ganolfan beilot, rhaid i ni wneud pwnc hollol newydd; Y Fagloriaeth Gymreig. Gan fod llawer o gyfleon ar gael i ni yn y chweched, rwyf wedi gwneud llawer o waith elusennol ac yn ei fwynhau yn fawr.
Beth yw pwnc eich stori?
Yn syml iawn, mae'n son am fy anifeiliaid anwes; un ceiliog a dwy iar a'u hanturiaethau.
Beth oedd eich profiad o wneud stori ddigidol?
Roedd y profiad o wneud stori ddigidol yn un gwerth chweil. Cefais lawer o hwyl ac mae gen i rywbeth i ddangos ar ei ddiwedd. Roedd yn brofiad gwerthfawr.
Es i ar y cwrs gan fod diddordeb gennyf i weithio ym myd y cyfryngau wedi i mi orffen yn y brifysgol.
Duration:
This clip is from
More clips from Cipolwg ar Gymru
-
Rhodri Pugh - Y Gnoc!
Duration: 02:16
-
Shirley G Williams - Seren WΓ®b
Duration: 01:11
-
Charles Cochrane - Arian heb sglein
Duration: 01:17
-
Keith O'Brien - Tu hwnt i'r drws
Duration: 02:22
More clips from Βι¶ΉΤΌΕΔ Cymru
-
Agor adeilad newydd y Cynulliad
Duration: 02:09
-
Refferendwm datganoli 1997
Duration: 02:31
-
Protestiadau Tryweryn 1965—Βι¶ΉΤΌΕΔ Cymru
Duration: 01:54
-
Ynys Enlli—Clipiau Dysgu, Dysgu
Duration: 01:00