Main content

Rosalyn James - Roz, Myrdd a fi

Mae Rosalyn James yn cael eu hadnabod wrth sawl enw, gyda phob un yn meddu ar ei hunaniaeth ei hun. Dyma rai o'r straeon sydd ynghlwm wrth y casgliad o enwau yma a sut mae pob enw yn datgleu rhywfaint mwy am Miss James, Drama...

Mae Rosalyn James yn cael eu hadnabod wrth sawl enw, gyda phob un yn meddu ar ei hunaniaeth ei hun. Dyma rai o'r straeon sydd ynghlwm wrth y casgliad o enwau yma a sut mae pob enw yn datgleu rhywfaint mwy am Miss James, Drama...

Rosalyn James:

Chwech wythnos - dyna faint gymerodd hi i Mam a Dad ffeindio enw i fi... Ar Γ΄l hir aros ges i fy medyddio yn Anne Rosalyn James, fel teyrned i un hanner o'r ddeuawd enwog honno Rosalind a Myrddin. Ond, mae gen i sawl enw a sawl 'hunaniaeth' fel petai.

Dwi'n Rosalyn, Ros, Rwsalyn, Roz, Rosalyn, Rosalina, Rose a Rosie.

Ros sy'n symud wrth wrando ar orchmynion Mam a Rwsalyn yn cynhesu drwy adnabod galwad o'r teulu. Bydd hon yn dweud'i barn, colli thymer, chwerthin a crio a chadw ambell i beth yn gyfrinach; jyst rhag ofn.

Fel Roz -dwi'n fyr, bach, tawel a sal... a dwi ofn plant mawr, plant bach, merched trendi a bitshi, llygod, corrod a siwr o fod fy nghysgod fy hun!

Nawr, ma Rosalina oedd yn byw yn Como, Italia yn llawer fwy hyderus. Mae'n deall yn iawn shwt i ferwi pasta a chwcio pizza. Mae'n agored, rhydd, emosiynol ac yn hoffi fflyrtio tipyn bach - Ciao bello!

Rosalyn yw cynnyrch blwyddyn yn Ohio, ac ma'r Yankee yma'n bybli, lyfli a barus, heb son am fod yn 'tall', tyff a 'two faced'. Ma' hon yn cael 'buzz' o lefaru a gwrando ar yr 'Americanisms' - "You hanging out dude", "Hi, butt head."

Mae Rosalyn James fel y gelwid hi gan y 'theatre types' yn crefu am sylw ar y llwyfan; yn llawn mynegiant gwyllt a chyffrous ac yn dwli ymgolli yn wefr yr eiliad ddramatig.

Miss James, Miss James Drama, Miss Media... yw'r athrawes propor a pharchus. Mae Rose a Rosie yn ffrind a chariad. Yn ciwt, cynnes a chanmoladwy... Yn haerllug, di-gwilydd, diog a siwr o fod yn llawer o bethau eraill dylen i ddim sΓ΄n amdanynt!

Oherwydd y ddeuawd enwog, o Roz a Myrdd ges i'n enw, a fi'n reit falch o'r ffaith. A gallai pethe wedi bod yn waeth, gallai Mam a Dad wedi bod yn ffan o Jac a Wil!

Holi Rosalyn James:

Dywedwch rywfaint o'ch hanes.

Rwy'n athrawes yn Ysgol Gyfun Abertawe ac yn byw yn Abertawe.

Beth yw pwnc eich stori?

Mae fy stori am yr enwau amrywiol yn fy mywyd. Roeddwn am sΓ΄n am y stori yma oherwydd roedd yn fodd o ddatblygu hiwmor a siarad am y profiadau pwysig yn fy mywyd.

Sut aeth pethau yn y gweithdy?

Gwych! Roedd yn gyfle arbennig i ddefnyddio technoleg mewn ffordd greadigol. Fel athrawes, roedd yn fraint o weld y disgyblion yn trafod yn aeddfed am brofiadau personol a'i drosglwyddo'n lwyddiannus yn eu straeon. Profiad bythgofiadwy!

Release date:

Duration:

3 minutes