Olwen Cottle - Cig ar yr Esgyrn
Mae Olwen Cottle yn berchen ar lythyron a ysgrifennwyd gan ei hen, hen, hen ewythr a dyma gychwyn ar ei diddordeb o edrych yn Γ΄l ar achau'r teulu.
Mae Olwen Cottle yn berchen ar lythyron a ysgrifennwyd gan ei hen, hen, hen ewythr a dyma gychwyn ar ei diddordeb o edrych yn Γ΄l ar achau'r teulu.
Olwen Cottle:
Geneth o Gaernarfon a'i gwreiddiau'n Nyffryn Clwyd ydw i. Pan symudais i weithio i Lundain ac yna Hemel Hempstead, dyma ddechrau holi am fy achau, yn y gobaith o roi cig ar yr esgyrn.
Roedd John Williams, Garnedd Isaf, Prion a'i deulu wedi penderfynu ymfudo a chwilio am fywyd gwell yn Oshkosh, Wisconsin. Cadwodd nain naw o'r llythyron a ysgrifennodd e at ei frawd - fy hen, hen daid - rhwng 1851 a 1862.
Ynddynt mae'n darlunio'r siwrne, y newid byd a'r caledi. Cymerodd y daith wyth wythnos dros fΓ΄r a thir, ond wedi'r holl ymdrech, bu farw ei wraig a'i ddau blentyn o fewn tair wythnos i gyrraedd Oshkosh.
Ymhen amser, ail-briododd John Williams gydag Hannah a ganwyd wyth o blant iddynt. Bu'n un o sefydlwyr capel Peniel yno a llwyddodd i gadw cysylltiad ΓΆ'i deulu a'i ffrindiau'n Nyffryn Clwyd.
Dwi'n parhau i gysylltu'n achlysurol gyda'i ddisgynyddion, a'r gobaith ydi eu cyfarfod rhywbryd, er mwyn rhoi mwy o gig ar yr esgyrn.
Holi Olwen Cottle:
Allwch chi ddweud rhywfaint amdano'ch hun?
Pennaeth Ysgol Gynradd yn ceisio gwneud amser ar gyfer diddordebau eraill.
Beth mae eich stori amdano?
Agwedd o'r cyfoeth o wybodaeth dw i wedi ei gasglu trwy "hel fy achau".
Pam y dewisoch sΓ΄n am y stori yma yn arbennig?
Roeddent yn fy meddwl. Wnes i dderbyn dwy alwad ffΓ΄n o fewn wythnos gan aelodau eraill o'r teulu (perthnasau pell), sy'n ymhel ΓΆ'r achau, yn gofyn am wybodaeth. Roeddwn yn bwriadu rhoi rhywfaint o amser yn ystod gwyliau'r Pasg i ymhel ΓΆ'r achau ta beth.
Beth oedd eich profiad chi o wneud stori ddigidol?
Diddorol iawn - ac yn gweld llawer o bosibiliadau i ymestyn yr hanes neu'r stori a gweld syniadau am straeon eraill.
Duration:
This clip is from
More clips from Cipolwg ar Gymru
-
Rhodri Pugh - Y Gnoc!
Duration: 02:16
-
Shirley G Williams - Seren WΓ®b
Duration: 01:11
-
Charles Cochrane - Arian heb sglein
Duration: 01:17
-
Keith O'Brien - Tu hwnt i'r drws
Duration: 02:22
More clips from Βι¶ΉΤΌΕΔ Cymru
-
Agor adeilad newydd y Cynulliad
Duration: 02:09
-
Refferendwm datganoli 1997
Duration: 02:31
-
Protestiadau Tryweryn 1965—Βι¶ΉΤΌΕΔ Cymru
Duration: 01:54
-
Ynys Enlli—Clipiau Dysgu, Dysgu
Duration: 01:00