Main content

Guto Ll Thomas - Nid ar redeg mai aredig

Yn 1984 daeth hen ras aredig Sarn a'r Cylch, PenllΕ·n, i ben. Yma, mae Guto Thomas yn ategu ei hanes ei hun i'r gystadleuaeth hon a'i hadfywiad yn 2000.

Yn 1984 daeth hen ras aredig Sarn a'r Cylch, PenllΕ·n, i ben. Er fod hyn bron i 20 mlynedd yn Γ΄l, mae Guto Ll Thomas yn ategu ei hanes ei hun i'r gystadleuaeth yma a'i hadfywiad yn 2000.

Guto Ll Thomas:

Y nawfed ar hugain o Ebrill 2000. I'r rhan fwyaf ohonoch Dydd Sadwrn digon cyffredin oedd hwn mae'n debyg. Ond i griw o ffermwyr o Ben LlΕ·n roedd hwn yn ddiwrnod arbennig a hanesyddol oherwydd atgyfodwyd un o hen draddodiadau amaethyddol Pen Llyn, sef Ras Aredig Sarn a'r Cylch.

Nid ras gyffredin mo hon oherwydd nid y cyntaf i orffen aredig oedd nod y cystadlu ond pwy allai droi'r gwys daclusa! Y gamp oedd defnyddio y gwydd mwya' gyda'r tractor mwya', neu yr "horse power" go iawn, sef y ceffyl gwedd, neu yn achos un ras; dau ful!

Dechreuodd y traddodiad o gynnal y ras o gwmpas 1945 ac roedd y ffermwyr yn ei chysidro hi'n fraint ca'l cynnal y ras ar eu tir. Ond, ar Γ΄l 39 o flynyddoedd, aeth hi'n anoddach trefnu'r ras, ac yn 1984 daeth i ben.

Fel un o gefndir amaethyddol, roeddwn wastad yn clywed hen hanesion gweision ffermydd am 'Ras 'Redig Bodnitho' neu 'Ras 'Redig Porthdinllaen', a pwy fwya y clywn y straeon yma; mwya'n byd roedd yr awydd i gael gweld sut beth oedd y "ras 'redig". Ac wrth lwc fe atgyfodwyd y traddodiad.

Er mor braf ydi gweld yr achlysur yn cael ei gynnal yn flynyddol, mae gweld "y ras 'redig" yn gwneud i mi feddwl be' fuasai ffarmwr 'nΓ΄l yn 1945 yn ei feddwl o weld y tractors a'r gwyddion modern yn cael eu cymryd yn ganiataol!

Mae cael gweld 'ras 'redig' yn deyrnged i'r oes amaethyddol a fu. Ond mae hefyd yn agoriad llygaid i'r genhedlaeth bresennol o sut weithiai ein tadau a'n cyn deidiau ar y tir!

Holi Guto Ll Thomas:

Allwch chi ddweud rhywfaint amdanoch hun.

Rwyf yn 28 oed ac yn byw ym mhentref Rhiw sydd ryw filltir o Aberdaron ym Mhen LlΕ·n. Wedi gadael Coleg Glynllifon bum yn gweithio adref ar y fferm gyda'm teulu hyd nes arall-gyfeirio i ddysgu cyfrifiaduron yn 1999.

Ar hyn o bryd rwyf yn dal i ddysgu cyfrifiaduron mewn canolfan yn fy ardal leol. Fy niddordebau yw cerdded traethau LlΕ·n ac hefyd gwneud rhywfaint o ffotograffiaeth.

Beth yw pwnc eich stori?

Adfywiad un o hen draddodiau amaethyddol ardal Llyn sef RΓΆs Aredig Sarn ar Cylch. Mae'r traddodiad yn mynd yn Γ΄l i ganol y 40au, ond ar Γ΄l dros 20 mlynedd yn segur daeth grwp o ffermwyr lleol i atgyfodi'r traddodiad unwaith eto.

Heddiw, mae hi'n cael ei chysidro yn un o ymrysonfeydd pwysicaf Cymru. Dewisais i sΓ΄n am y stori yma oherwydd fy mod yn dod o gefndir amaethyddol ac mae fy niddordeb mewn hen beiriannau! Mae hefyd yn ffordd i ddangos sut mae'r byd amaethyddiaeth wedi newid dros y blynyddoedd.

Sut aeth pethau yn y gweithdy?

Roedd hwn yn brofiad anhygoel. Oherwydd fy niddordeb yn y byd cyfrifiadurol, 'roedd cael defnyddio'r dechnoleg i greu stori weledol yn brofiad gwych yn ei hun! Ond eto roedd yn waith caled.

Roedd yr hwyl a'r cyfeillgarwch rhwng pawb yn anhygoel ac yn gwneud i'r profiad fod yn un arbennig iawn. Dysgais lawer iawn o sgiliau newydd a rhaid cyfadde' mae'r profiad wedi ennyn diddordeb i symud i mewn i'r maes golygu fideo. Gobeithiaf yn y dyfodol y caf wneud stori arall.

Release date:

Duration:

2 minutes