Jessica Lewis - Dachau
Cafodd ymweliad i wersyll crynhoi Dachau yn yr Amlaen effaith mawr ar Jessica Lewis a'i ffrindiau o Ysgol Ystalyfera.
Nodyn o ran cynnwys: *Mae'r ffilm a'r erthygl hwn yn canolbwyntio ar wersyll crynhoi y Natsiaid; Dachau, a allai fod yn anaddas i blant ifanc wylio a darllen.*
Cefndir y ffilm:
Dachau yw un o'r gwersylloedd crynhoi a gafodd ei ddefnyddio gan y NatsΓ―aid o 1933 hyd 1945. Mae'r gwersyll yn sefyll y tu allan i Munich, Yr Almaen ac mae'r lle wedi cael ei gadw yn union fel ag oedd dros hanner canrif yn Γ΄l.
Aeth Jessica Lewis ar daith ysgol i Dachau ac mae ei stori yn sΓ΄n am sut brofiad oedd y daith a'r effaith gafodd y lle erchyll yma arni.
Jessica Lewis:
Diwrnod braf, di-gwmwl o Fai a chriw ohonon ni wedi mynd i'r Almaen ar ein gwyliau gyda'r ysgol. Roedd William, Sarah a fi yn cael llawer o hwyl, ond mae un diwrnod wedi aros yn y cΓ΄f.
Ar y dydd Gwener, aethon ni i dre Dachau, lle mae gwersyll crynhoi cynta'r wlad. Yno, cafodd dros ugain mil o ddynion, menywod a phlant eu poenydio a'u lladd.
Roedd awyrgylch y siambrau nwy yn drwm a gormesol ac roedd yn rhaid gadael yn syth oherwydd arogl hen nwy.
Roedd hi mor dawel. Yr unig beth i'w glywed oedd sΕµn traed yn crafu dros y cerrig ac ambell i un ohonom yn llefain.
'Dw i erioed wedi gweld ein criw ni mor dawel a doeddwn i ddim eisiau siarad oherwydd ofn a'r angen i ddangos cymaint o barch a oedd gennyf i'r bobl oedd wedi marw.
Yn yr amgueddfa rwy'n cofio gweld waled un dioddefwr a thu mewn iddo roedd llun o'i deulu, gyda'i wraig yn dal eu babi bach newydd.
Y cwestiwn odd yn mynd trwy fy meddwl oedd pam y cafodd miloedd o bobl ddiniwed eu lladd fel hyn?
Wrth adael y lle, 'roeddwn mor grac bod y fath beth erchyll wedi digwydd o gwbl. Ond wedi bod yna, rydw i nawr yn sylweddoli pa mor bwysig yw cofio a galaru.
Roedd hi'n diwrnod braf o Fai, ond wrth fynd yn Γ΄l ir bws, roedd yr awyr yn llawn cymylau.
Holi Jessica Lewis:
Dywedwch rywfaint o'ch hanes.
Rwy'n 17 oed ac yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Ystalyfera. Rwy'n astudio Saesneg, Almaeneg a Sbaeneg. Yn fy amser sbΓΆr, rydw i'n hoffi gwrando ar gerddoriaeth roc, darllen, ysgrifennu erthyglau a mynd i siopa yng Nghaerdydd ac Abertawe.
Beth yw pwnc eich stori?
Mae'r stori yn ymwneud ΓΆ thaith i'r Almaen gyda'r ysgol. Aethom i wersyll crynhoi. Mae'r stori yn trafod fy mhrofiadau o fewn y gwersyll a sut yr oedd wedi effeithio arnaf.
Roeddwn am sΓ΄n am y stori yma oherwydd roedd y profiad wedi newid y ffordd rwy'n meddwl am hanes. Rwyf wedi sylweddoli ei bod hi'n bwysig i gofio digwyddiadau'r gorffennol er mwyn sicrhau dyfodol gwell.
Sut aeth pethau yn y gweithdy?
Roedd yn brofiad gwych a wnes i ddysgu llawer.
Duration:
This clip is from
More clips from Cipolwg ar Gymru
-
Rhodri Pugh - Y Gnoc!
Duration: 02:16
-
Shirley G Williams - Seren WΓ®b
Duration: 01:11
-
Charles Cochrane - Arian heb sglein
Duration: 01:17
-
Keith O'Brien - Tu hwnt i'r drws
Duration: 02:22
More clips from Βι¶ΉΤΌΕΔ Cymru
-
Agor adeilad newydd y Cynulliad
Duration: 02:09
-
Refferendwm datganoli 1997
Duration: 02:31
-
Protestiadau Tryweryn 1965—Βι¶ΉΤΌΕΔ Cymru
Duration: 01:54
-
Ynys Enlli—Clipiau Dysgu, Dysgu
Duration: 01:00