Main content

Lowri Jenkins - Y Copi

"Pan o'n i'n blentyn roedd cerddoriaeth Dad yn llenwi'r tΕ·..."

O gofio am gariad ei thad at gerddoriaeth, mae Lowri yn bwrw ati i ddysgu o'i lyfr copi.

Lowri Jenkins:

Ar biano Dad mae'r copi cerddoriaeth yma'n eistedd. Un o'i hoff ganeuon.

Ar y copi mae ei ysgrifen a'i ymdrech i gyfieithu'r alaw Saesneg yma i'r Gymraeg.

Mae'n atgoffa i ohono - dyw e ddim o gwmpas rhagor; bu farw bum mlynedd yn Γ΄l.

Pan o'n i'n blentyn roedd cerddoriaeth Dad yn llenwi'r tΕ·. Roedd yn chwarae'r piano, yr accordion ac yn canu gyda llais tenor hyfryd.

Mae piano Dad yn biano i fi erbyn hyn. Fe gymerodd hi bedwar dyn awr a hanner i gael e mewn i'r tΕ· ac roedd rhaid tynnu dau ddrws i ffwrdd. Ond roedd hi'n bwysig i mi gael y piano ac mae wedi bod werth bob trafferth.

Wnes i roi i fyny ar ddysgu pan oeddwn i'n bymtheg oed ond nawr rwy'n cael gwersi eto. Rhyw ddydd dwi'n mynd i chwarae'r alaw i fy mhlant i.

Release date:

Duration:

1 minute