Wanda Zyborska - Cerflun Teithio
Teithia Wanda dros y byd gyda'i cherflun teithio fel modd i asesu ei hunaniaeth amrywiol.
Teithia Wanda dros y byd gyda'i cherflun teithio fel modd i asesu ei hunaniaeth amrywiol.
Wanda Zyborska:
Ers rhai blynyddoedd, dwi wedi bod yn teithio'r byd efo'r cerflun hwn. Darnau o hen 'inner tubes' tractors a cheir yr ardal yma wedi'u gwnio at ei gilydd.
Mae'n edrych fel darnau o groen. Mae'r broses o wneud cerflun yn bwysig iawn i mi ac mae yna dipyn ohono fi ynddo.
Pan dwi'n mynd ar fy nheithiau, mae gweld ymateb pobl i'r cerflun yn bwysig i mi, yn enwedig yn y maes awyr, pan mae o'n mynd ar y conveyor belt gyda'r bagiau a'r cesys ac yn dod allan ar yr ochr arall.
Yr hyn sy'n ddiddorol i fi ydi sut mae pobl o wahanol gefndiroedd a diwylliant yn gweld pethau yn fy ngwaith a'r pethau sy'n gyffredin ynddynt.
Er 'mod i wedi byw yng Nghymru ers ugain mlynedd, mae fy nhad yn dod o wlad Pwyl. Gwyddeles oedd Mam a ches i fy ngeni yng Nghilarney. Felly dwi'n teimlo bod gen i hunaniaeth amrywiol.
Dwi wedi teithio llawer dros y byd a dwi'n hoffi hynny. Trio dod i 'nabod diwylliannau gwahanol a mynd dan groen pobl.
Duration:
This clip is from
More clips from Cipolwg ar Gymru
-
Rhodri Pugh - Y Gnoc!
Duration: 02:16
-
Shirley G Williams - Seren WΓ®b
Duration: 01:11
-
Charles Cochrane - Arian heb sglein
Duration: 01:17
-
Keith O'Brien - Tu hwnt i'r drws
Duration: 02:22
More clips from Βι¶ΉΤΌΕΔ Cymru
-
Agor adeilad newydd y Cynulliad
Duration: 02:09
-
Refferendwm datganoli 1997
Duration: 02:31
-
Protestiadau Tryweryn 1965—Βι¶ΉΤΌΕΔ Cymru
Duration: 01:54
-
Ynys Enlli—Clipiau Dysgu, Dysgu
Duration: 01:00