Sarah Marion Jones - Stori Saethon
Mae Sarah Jones yn s?m ei chwithdod o weld hen offer a gwrthrychau fferm y teulu yn 'Saethon' yn cael eu gwerthu. A fydd hi'n edrych yn ?r y cyfnod ac yn difaru?
Mae Sarah Jones yn s?m ei chwithdod o weld hen offer a gwrthrychau fferm y teulu yn 'Saethon' yn cael eu gwerthu.
A fydd hi'n edrych yn ?r y cyfnod ac yn difaru?
Dydd Sadwrn y 4ydd o Fedi, 1999 - diwrnod o newid i'n teulu ni. Ma'n siwr 'mod i 'di gweld y peth yn dod ers talwm. Wedi gweld cymaint o newid mewn amser mor byr. Un genhedlaeth - fi a dad.
Dim jyst gwerthu anifeiliaid a pheiriannau fu diwrnod yr arwerthiant, ond gwerthu hanes fy nheulu - y ffordd y bu hi.
Amser o wagio lle bu cymaint o swn, prysurdeb, brefu a nadu. Petha' oedd yn bwysig yn yr oes o'r blaen yn cael eu didoli, pentyru a'u gwerthu - petha sy'n bwysig i gyfnod fy nhad.
Ma' ffordd Mam a Dad yn fyd hollol wahanol i mi a 'mrawd. Anifeiliaid anwes ydy'r creaduriaid i bobol fel fi - anifeiliaid gwaith i bobol fel Dad. Bu fawr o ddiddordeb gen i a fy mrawd mewn ffarmio. Hwyrach mae ni sydd gallaf yn peidio mynd mewn i ddiwydiant sydd ar ei liniau, ond diawcs, mae'n bechod gen i weld y peth.
Mewn blynyddoedd i ddod, a fyddai'n edrych yn ?r y cyfnod yma ac yn difaru? A fydd fy mhlant yn cael tyfu fyny fel y gwnaethon ni? Chwarae beics yn y pit seilej gwag, cerddad gwartheg ar hyn l?eudy mowr, stopio ar y ffordd adra i hel mwyar duon i'n bocsys bwyd, watchad y dynion yn cneifio a helpu 'neud te wedyn? Yndi, ma'r hen ffordd o fyw wedi marw.
Holi Sarah Jones
Beth yw eich hanes chi Sarah?
Rydw i'n 23 oed ac yn dod yn wreiddiol o bentref Llanbedrog ym Menrhyn Llyn. Ar ?raddio es i Awstralia am 10 mis i weithio a chrwydro. Ar hyn o bryd rydw i'n dilyn cwrs ?add mewn newyddiaduraeth. Fy hoff bethau mewn bywyd yw tost a Marmite a fy ngwely.
Am beth mae eich stori yn s?
Diwedd y traddodiad amaethyddol yn fy nheulu. Ffermwyr oedd fy nhad a'i frodyr a'i chwaer, ond does neb o fy nghenhedlaeth i o'r teulu wedi aros yn y diwydiant. Penllanw hyn oedd arwerthiant yn 1999 pan werthwyd holl anifeiliaid, peiriannau ac ati oddi ar y fferm a daeth y denantiaeth i ben.
Sut y gwnaethoch chi benderfynu s?m hyn yn eich stori?
Fe'm hysbrydolwyd i ddweud fy stori gan waith y ffotograffydd Dewi Glyn Jones a dynnodd luniau o'r diwrnod hwn ac o'r cyfnod yn arwain ato. Llun ydyw o bentwr o hen lyfrau a Beiblau ar ben bwrdd yn barod i gael eu clirio o'r hen gartref.
I mi mae hyn yn dangos sut mae pethau wedi newid. Roedd pethau fel hyn yn bwysig yn yr oes o'r blaen, ond nid felly i fy nghenhedlaeth i. Mae tri o luniau Dewi Glyn yn fy Stori Ddigidol, rydw i'n ddiolchgar ofnadwy iddo am gael eu defnyddio.
A wnaethoch chi fwynhau'r profiad yn y gweithdy?
Roedd gwneud stori ddigidol fy hun yn brofiad da - llawer o waith caled a llawer o hwyl. Dysgais lawer am raglenni cyfrifiadurol newydd.
Yn y dyddiau y buom wrthi yn y gweithdy ym Mangor, daeth y criw i adnabod ei gilydd reit dda. Ynghanol y rwdlan daeth ambell i fflach o ysbrydoliaeth oedd yn help i ddatblygu ein straeon. Roedd pawb yn gl?iawn a llawn brwdfrydedd.
Duration:
This clip is from
More clips from Cipolwg ar Gymru
-
Rhodri Pugh - Y Gnoc!
Duration: 02:16
-
Shirley G Williams - Seren WΓ®b
Duration: 01:11
-
Charles Cochrane - Arian heb sglein
Duration: 01:17
-
Keith O'Brien - Tu hwnt i'r drws
Duration: 02:22
More clips from Βι¶ΉΤΌΕΔ Cymru
-
Agor adeilad newydd y Cynulliad
Duration: 02:09
-
Refferendwm datganoli 1997
Duration: 02:31
-
Protestiadau Tryweryn 1965—Βι¶ΉΤΌΕΔ Cymru
Duration: 01:54
-
Ynys Enlli—Clipiau Dysgu, Dysgu
Duration: 01:00