Main content

Fabio Lewis - Hirdaith

Hanes arbennig Fabio Lewis o Batagonia. Mae e bellach yn ail-afael yn hanes ei hen, hen daid yng Nghymru ac yn creu hanes eu hun yn yr Hendy ger Llanelli.

Hanes arbennig Fabio Lewis o Batagonia. Mae e bellach yn ail-afael yn hanes ei hen, hen daid yng Nghymru ac yn creu hanes eu hun yn yr Hendy ger Llanelli.

Holi Fabio Lewis

Beth yw eich hanes chi?

Dw i'n dod yn wreiddiol o bentref bach Dolavon, Dyffryn Camwy, Patagonia. Dw i'n byw ar hyn o bryd yn yr Hendy, ger Llanelli, gyda fy nyweddi. Mae gen i ddiddordeb mawr yn yr iaith Gymraeg a hanes fy nheulu.

Ymfudodd fy hen, hen daid - Lewis Davies - i Batagonia ar long enwog y Mimosa yn 1865. Dwi'n mwynhau teithio a chanu a dwi wedi cystadlu'n flynyddol yn Eisteddfod y Wladfa, Trelew.

Beth yw pwnc eich stori?

Dwi wedi dewis adrodd hanes fy nheulu yn ymfudo i Batagonia o Aberystwyth, gan sôn yn arbennig am ddylanwad y Gymraeg ar fy mywyd. Sbaeneg oedd iaith yr aelwyd, er bod fy rhieni yn siarad Cymraeg â'i gilydd, ro'n nhw'n siarad Sbaeneg gyda ni y plant.

Pan symudodd nain i fyw gyda ni, roedd hi bob amser yn siarad Cymraeg gyda ni, felly roeddwn yn clywed yr iaith bob dydd. Dwi wedi ymweld â Chymru, cynorthwyo mewn dosbarthiadau Cymraeg yn y Wladfa ac wedi bod yn athro Cymraeg i ddosbarth dechreuwyr.

Mae'r rhod wedi troi, a dwi nawr yn yr Hen Wlad ac ar fin priodi â Chymraes yma.

Pam y gwnaethoch ddewis sôn am y stori yma'n arbennig?

Am fod y Gymraeg wedi chwarae rhan mor fawr yn fy mywyd ac am fod gen i gymaint o ddiddordeb yn hanes fy nheulu yma yng Nghymru.

Beth oedd eich profiad chi o greu stori ddigidol eich hun?

Roedd yn brofiad newydd a diddorol i mi ac yn ffordd dda o gofnodi fy hanes. Dysgais lawer am y meddalwedd - hoffais y broses o sganio ac addasu lluniau. Roedd yn grêt gweld sut oedd stori yn dod at ei gilydd.

Release date:

Duration:

2 minutes

Featured in...