Main content

Wyn Davies - O Greunant i'r Scrubs

Cyn-warden un o garchardai mwyaf Llundain yw Wyn Davies, ond mae un peth o'r cyfnod hwnnw yn dal yn ei wneud yn nerfus...

Stori'r bachgen o'r Creunant a'i brofiadau yng ngharchar Wormwood Scrubs...

Cyn-warden un o garchardai mwyaf Llundain yw Wyn Davies, ond mae un peth o'r cyfnod dal yn ei wneud yn nerfus...

Wyn Davies:

Crwt o'r Creunant yn feindio eu hunan yn jail, na beth ddigwyddodd i fi - yr ochr iawn i'r bariau chi'n deall - gweithio fel swyddog carchar am ddeng blynedd wnes i.

Yn ystod y ddwy flynedd gyntaf roeddwn yn gweithio yn Wormwood Scrubs yn Llundain, yn disgwyl ar ? 'lifers'. Mae llawer o bobol yn meddwl bod y llefydd yma yn galed. I raddau mae nhw, ond maent hefyd yn llawn cymeriadau lliwgar.

Rwy'n cofio'r hen fachan yma oedd yn gweithio fel 'tea boy' yn gwneud te a choffi i'r staff i gyd yn y bloc. Un peth o'n i wastad yn gorfod gwneud oedd gweld pa drosedd oedd y caracharion yma wedi ei chyflawni cyn cymryd y te!

Dychmygwch y sioc ges i pan wnes i ddarganfod taw lladd ei wraig wnaeth e drwy roi gwenwyn yn ei diod! Cymeres i ddim diod wrtho fe wedi hynny!

Roedd hiwmor yn bwysig iawn i'r 'lifers' er mwyn delio gyda realiti eu sefyllfa. Roedd rhan fwyaf ohonyn nhw yn hapus i rannu joc gyda'r staff.

Rwy'n cofio'r dyn du yma. Roedd e'n gwisgo bandana gwyn am ei ben yn y bloc ac roedd pawb, y staff a'r carcharorion yn ei alw e'n 'Guinness'.

Dwi wedi gadael y Gwasanaeth Carchar erbyn hyn oherwydd anaf. Rwyf wedi dychwelyd i'r Creunant a dod o hyd i wraig a theulu. Ond mae'n rhaid dweud, nawr ac yn y man, pan mae'r wraig yn paratoi dishgled i fi, rwy'n cofio am y Scrybs ac yn teimlo ychydig yn nerfus!

Holi Wyn Davies:

Dywedwch rywfaint o'ch hanes.

Rwy'n 36 mlwydd oed ac yn byw yng Nghreunant gyda fy ngwraig, Annette, a'n plant, Emily, 17; Jenny, 14 a Llinos sy'n wyth. Rwy'n gweithio fel technegydd cyfrifiaduron yn Ysgol Gyfun Ystalyera.

Beth yw pwnc eich stori?

Mae'r stori'n disgrifio'r amser ddechreuais i weithio fel warden Carchar Wormwood Scrubs yn Llundain. Roedd symud i Lundain yn beth mawr i fi. Codi pac o bentre' bach at y cymeriadau gwahanol oedd yn byw yn y carchar.

Sut aeth pethau yn y gweithdy?

Roedd yn bleser mawr i mi gwrdd ΓΆ'r criw i gyd. Fe wnes i fwynhau pob eiliad o'r broses. Diolch yn fawr iawn i chi gyd.

Release date:

Duration:

2 minutes