Elin Meredith - Llwsgam
Dydi hen gwt moch ddim yn le fuasech chi'n disgwyl gweld pencadlys mudiad datrys troseddau rhyngwladol.
Ond os daw 'Llwsgam' yn Γ΄l at ei gilydd eto - bydd Elin Meredith yna gyda'r cyntaf.
Dydi hen gwt moch ar ffarm yn ardal Llanuwchllyn, ddim yn le fuasech chi'n disgwyl gweld pencadlys mudiad datrys troseddau rhyngwladol.
Ond os daw 'Llwsgam' yn Γ΄l at ei gilydd eto - bydd Elin Meredith yna gyda'r cyntaf.
Elin Meredith:
Un gwyliau braf dyma lle sefydlodd 'y nghyfnitherod a 'nghefndryd, fi a mrodyr, y mudiad cudd 'Llwsgam'.
O fewn dim, roedd gennym gardie aelodaeth, cod cyfrin, bathodynau sbeshial wedi eu gwneud yn y 'Steddfod... a lle arbennig i adael llythyrau ar gangen fforchiog oedd yn crogi uwchben y nant.
Ond, ar wahan i 'ddirgelwch y faneg goch' ddaru ni ei darganfod yn y goedwig, prin iawn oedd y cliws a'r cyfle i ddal troseddwyr ac achub y byd.
Mi ddoth llai a llai o alw am gyfarfodydd yn HQ y cwt moch; mi dyfodd dail dros gangen y llythyrau cudd... ac mi ddechreuson ninnau dyfu i fyny.
Ond, am un ha' yn nechrau'r wythdegau ynghanol mynyddoedd Meirionydd, roedd unrhyw beth yn bosib. Ac mi faswn i'n licio meddwl, os ydy Cymru a'r byd byth ein hangen ni eto, y bydd aelodau Llwsgam yn barod i ddod i'r adwy!
Allwch chi ddweud rhywfaint amdano'ch hun.
Rydw i'n byw yng Nghaernarfon rwan, ond mi fues i yn ddigon lwcus i gael y rhan fwyaf o fy magwraeth yng nghefn gwlad Cwm Cynllwyd ger Llanuwchllyn - lle da i blant chwarae, dysgu a gadael i'w dychymyg fynd yn rhemp - ac am rywbeth felly mae'r stori yma.
Beth mae eich stori amdano?
Mae'r stori am gyfnod hapus yn fy mhlentyndod pan sefydlodd fy nghyfnitherod, cefndryd, fi a fy mrodyr 'gang' datrys troseddau o'r enw 'Llwsgam' - wedi ei greu o ail enw bob un ohonom. Roedden ni wedi ein dylanwadu'n drwm gan lyfrau fel y 'Llewod', 'Famous Five' a 'Secret Seven' ac roedd y peth yn gynhyrfus iawn.
Pam y dewisoch sΓ΄n am y stori yma yn arbennig?
Ro'n i isio rhoi ar gof a chadw y cyfnod hudol yn eich plentyndod pan mae unrhyw beth a phopeth yn bosib. Pan nad ydi profiadau bywyd wedi cyfyngu ar y ffordd yr ydych chi'n meddwl am eich gobeithion. A gan ein bod fel teulu yn byw mewn gwahanol ardaloedd o Gymru, doedden ni ddim yn gweld ein gilydd mor aml ΓΆ hynny ac roedd hΕ·n, rhywsut, yn cynrychioli ein hawydd ni i greu ryw gysylltiad teuluol rhyngon ni - rhywbeth oedd yn ein clymu. Hefyd, ro'n i'n meddwl bod bathodyn Llwsgam yn cΕµl!
Beth oedd eich profiad chi o wneud stori ddigidol?
Gwych - wedi wirioneddol fwynhau cymryd deuddydd oddi wrth fy mywyd beunyddiol i gyfarfod pobl ddifyr, rhannu profiadau a dod yn rhan o broses adrodd stori ein gilydd. Roedd y profiad yn ysbrydoliaeth, a'r gweithdy ei hun yn golygu cymaint i mi ΓΆ'r storu wnes i ei chreu!
Duration:
This clip is from
More clips from Cipolwg ar Gymru
-
Rhodri Pugh - Y Gnoc!
Duration: 02:16
-
Shirley G Williams - Seren WΓ®b
Duration: 01:11
-
Charles Cochrane - Arian heb sglein
Duration: 01:17
-
Keith O'Brien - Tu hwnt i'r drws
Duration: 02:22
More clips from Βι¶ΉΤΌΕΔ Cymru
-
Agor adeilad newydd y Cynulliad
Duration: 02:09
-
Refferendwm datganoli 1997
Duration: 02:31
-
Protestiadau Tryweryn 1965—Βι¶ΉΤΌΕΔ Cymru
Duration: 01:54
-
Ynys Enlli—Clipiau Dysgu, Dysgu
Duration: 01:00