Main content

Robert Williams - Watsh

Mae gweld oriawr a dderbyniodd Robert Williams gan ei daid o'r Ariannin yn dwyn llawer o atgofion yn Γ΄l. Symbylodd hyn iddo fynd ar daith i ddarganfod ei achau a theulu newydd yr ochr arall i'r byd.

Mae gweld oriawr a dderbyniodd Robert gan ei daid o'r Ariannin yn dwyn llawer o atgofion yn Γ΄l iddo. Symbylodd hyn iddo fynd ar daith i ddarganfod ei achau a theulu newydd.

Robert Williams:

Owen Llywelyn Thomas, fy nhaid a anwyd yn yr Ariannin, a ddaeth draw i weld ei deulu yng Nghymru yn 1947. Dyma watsh ges i ganddo yr adeg hynny a phan ddychwelodd i dde America weles i mohono fyth wedyn.

Wrth fynd drwy hen luniau'r teulu, gwelais lun o Huw Binny, cefnder fy nhad a llongwr o Gemaes yn sefyll wrth fedd fy nhaid ym mynwent Chacarita yn Buenos Aires. Penderfynais fy mod am ymweld ΓΆ'r lle ryw ddiwrnod, ac yn 2004 dyma wireddu fy mreuddwyd.

Symud ymlaen i Batagonia wedyn, a gweld carreg fedd chwaer fy hen nain ym mynwent Capel Moreia cyn cael cyfle i fynychu Eisteddfod Gymraeg yn Nhrelew. Yng nghanol y miri, dyma sefyll o gylch yr orsedd, a chanfod bod y wraig a safai wrth fy ochr yn medru rywfaint o Gymraeg.

Tra'n sgwrsio, sylweddoli ei bod yn perthyn i mi, ac mai carreg fedd ei hen nain hi a welais i ym mynwent Capel Moreia. Cyd-ddigwyddiad neu ffawd? Dwn i ddim.

Dydi'r watsh ges i gan fy nhaid ddim yn tician bellach, ond mae'r cysylltiad teuluol wedi'i adfer.

Holi Robert Williams:

Allwch chi ddweud rhywfaint amdano'ch hun?

Rwy'n amaethwr o Gemaes, Ynys MΓ΄n. Kathleen yw fy wraig ac mae gennym dri o blant - Marian, Ellen ac Owen.

Beth yw pwnc eich stori?

Canlyniad ymweliad fy nhaid o'r Ariannin i Gymru yn 1947. Gwnaeth y digwyddiad arwain at ddarganfod teulu yr ochr arall i'r byd.

Beth oedd eich profiad chi o wneud stori ddigidol?

Syndod o weld a cheisio defnyddio y dechnoleg ddiweddaraf. Dysgu rhedeg cyn cerdded!

Release date:

Duration:

2 minutes