Main content

Eirlys Roberts - Canrif o Gariad

Mae Eirlys yn athrawes wedi ymddeol sydd bellach yn treulio'i diwrnodau yn gweithio ar fferm odro gyda'i gΕµr a'i mab. Nid yw'n gwisgo llawer o emwaith, ond mae'n berchen ar bum modrwy deuluol arbennig iawn.

Mae Eirlys yn athrawes wedi ymddeol sydd bellach yn treulio'i diwrnodau yn gweithio ar fferm odro gyda'i gΕµr a'i mab. Nid yw'n gwisgo llawer o emwaith, ond mae'n berchen ar bum modrwy arbennig iawn.

Eirlys Roberts:

Does gen i fawr o amser i drafferthu gyda gemwaith. Dwi'n rhy brysur yn gweithio ar y fferm i boeni am bethau felly. Ond mae gen i bum modrwy.

Rai misoedd ar Γ΄l marwolaeth cyfnither i 'nhad daeth bocs i'n tΕ· ni, ac ynddo roedd copi o'r Meseia, Beibl Ffrangeg a modrwy.

Fy modrwy gynta' erioed! Roedd y llythrennau M ac E arni. Modrwy May Edwards o'r Bala ydi hi. Welais i 'rioed mo' May, ond gwelais ei llun gan Mam.

Cefais fodrwy ddyweddΓ―o gan fy ngΕµr ar ddiwrnod Rali'r Ffermwyr Ifanc yn Llysfasi. Fydda i byth yn ei gwisgo gan ei bod braidd yn llac ac yn goblyn am ddifetha pΓΆr o deits!

Ar Sadwrn ola'r flwyddyn yn 1962 priododd fy ngΕµr a finne yn LΓ΄n Swan Dinbych. Modrwy briodas ar siΓΆp yr hen ddarn pisin tair oedd gen i ac er bod Γ΄l traul blynyddoedd arni, gallaf ddal i deimlo'r onglau.

Priododd fy Nhad a Mam am 8.30 ar fore Llun ym mis Mehefin 1935. Bu llawer o dynnu coes am iddynt briodi mor gynnar! Ond ymddengys fod y Ficer eisiau mynd i briodas arall yn ddiweddarach yn Llanelwy!

Modrwy denau, ddi-siΓΆp, bron ΓΆ hollti, ond gallwch weld y marciau sy'n dangos 22 carat yn glir iawn. Fedra i byth mo'i gwisgo hi, mae'n rhy fawr, ond mae 'na rywbeth yn ei chylch.

Modrwy Briodas fy Nain: Ar Fai yr 20fed 1905, priododd Nain a Thaid. Canrif o gariad. Gwraig fferm oedd hithau, ond does gen i ddim cof ohoni.

Pum modrwy yn plethu'r naill genhedlaeth a'r llall, ac yn symbol o gariad teuluol. Gobeithio ryw ddydd bydd yr wyrion yn gwerthfawrogi'u hanes a'u harwyddocΓΆd.

Holi Eirlys Roberts:

Allwch chi ddweud rhywfaint amdano'ch hun?

Yn enedigol o Landrillo, ond yn byw yn ardal Dinbych ers 1956. Wedi ymddeol o fod yn athrawes. Gwraig fferm, yn gallu trin ychydig ar y cyfrifiadur at waith bob dydd.

Beth mae eich stori amdano?

Pum modrwy sydd yn fy meddiant.

Pam y dewisoch sΓ΄n am y stori yma yn arbennig?

Dewisais y stori yma ar Γ΄l gwylio ffilmiau eraill yn y gweithdy. Rwyf hefyd yn hel achau'r teulu ers blynyddoedd.

Beth oedd eich profiad chi o wneud stori ddigidol?

Diddorol iawn. Wnes i 'rioed wneud hyn o'r blaen. Y criw yn dangos fod ganddynt ddigon o amynedd! Wedi mwynhau yn fawr. Pwy a wyr na wnaf lunio stori arall rywbryd yn y dyfodol os caf 'ysbrydoliaeth'.

Release date:

Duration:

3 minutes