Lowri Mitchell -Moshi moshi Mitchell
Mae stori Lowri Mitchell yn rhoi darlun o'r cyfeillgarwch annisgwyl rhyngddi hi a dau ddyn o Siapan wnaeth hi a'i ffrind Cathy gyfarfod ar daith tramor.
Mae stori Lowri Mitchell yn rhoi darlun o'r cyfeillgarwch annisgwyl rhyngddi hi a dau ddyn o Siapan wnaeth hi a'i ffrind Cathy gyfarfod ar daith tramor. Lleolwyd y stori mewn bar carioci yn Kottoka, tre wledig a thawel yng ngogledd-orllewin Siapan. Mae profiad Lowri'n dangos y gallwch ddod o hyd i eneidiau hoff gytun yn rhywle!
Holi Lowri Mitchell:
Beth yw eich hanes chi Lowri?
Rwy'n wreiddiol o Aberystwyth, ond bellach yn astudio cwrs ym Mhrifysgol Caerdydd i fod yn weithwraig cymdeithasol. Dwi'n mwynhau teithio ac mae gennyf ddiddordeb yn niwylliannau gwahanol y byd, yn enwedig yn y Dwyrain Pell.
Beth yw testun eich stori?
Mae'r stori yn edrych ar y berthynas rhwng Mr. Kondo, Mr. Hotcake, Cathy a finne yn Siapan.
Paham y gwnaethoch benderfynu greu eich stori yn seiliedig ar y cyfeillgarwch yma?
Dewisais y stori yma yn arbennig oherwydd fy mod i am i bobl weld pwysigrwydd ac unigrwydd y berthynas oedd rhwng y pedwar ohonom ni. Mi oedd hi'n gyfeillgarwch digon rhyfedd -sylweddolom erbyn y diwedd ar sut, trwy gyfathrebu mewn iaith sylfaenol, y daethom i fod yn ffrindiau agos.
Sut oedd y profiad o greu stori ddigidol eich hun?
Roedd cwblhau y stori ddigidol yn brofiad da a gwerthfawr iawn hefyd. Dysgais lawer am y meddalwedd cyfrifiadurol a dysgu sut i greu ffilm fer fy hun. Profiad pleserus iawn.
Duration:
This clip is from
More clips from Cipolwg ar Gymru
-
Rhodri Pugh - Y Gnoc!
Duration: 02:16
-
Shirley G Williams - Seren WΓ®b
Duration: 01:11
-
Charles Cochrane - Arian heb sglein
Duration: 01:17
-
Keith O'Brien - Tu hwnt i'r drws
Duration: 02:22
More clips from Βι¶ΉΤΌΕΔ Cymru
-
Agor adeilad newydd y Cynulliad
Duration: 02:09
-
Refferendwm datganoli 1997
Duration: 02:31
-
Protestiadau Tryweryn 1965—Βι¶ΉΤΌΕΔ Cymru
Duration: 01:54
-
Ynys Enlli—Clipiau Dysgu, Dysgu
Duration: 01:00