Main content

John Howell Betton - Fy Spitfire Newydd

Mae John Howell Betton o Betws, Rhydaman, yn gweithio'n ddiwyd yn ei garej yn Rhydaman. Ond dim cynllun cyffredin yw'r prosiect yma. Mae am adeiladu awyren Spitfire newydd, allan o goed!

Mae John Howell Betton yn gweithio'n ddiwyd yn ei garej yn Rhydaman. Ond dim cynllun cyffredin yw'r prosiect yma...

John Howell Betton:

Mae gen i lawer o ddiddordebau. Un ohonyn nhw yw'r Prosiect Spitfire. Ma'r wraig wastad yn conan mod i ddim yn gwneud digon yn y cartref ac y dylen i bilo tato yn lle gwastraffu amser ar y Spitfire.

Rwy'n hoffi Spitfires - ma' nhw'n edrych yn dda o hyd. Hefyd ma' sΕµn yr injan fel y gΓΆn Myfanwy! Ma'r Spitfire yn awyren sy'n enwog am ei gwaith yn ystod y rhyfel a'i rhan ym Mrwydr Prydain.

Rwy'n cofio'r amser pan o'n i'n grwt, mynd i RAF St. Athan gyda'r ysgol a gweld Spitfires yn cael eu chwalu fel scrap. Heddi, ma' pobl yn chwilio amdanyn nhw ac yn talu hyd at filiwn o bunne' am un da.

Pan es i i wneud Gwasanaeth Cenhedlaethol yn yr RAF, ces i'r cyfle i weld sawl Spitfire yn cael eu harddangos yn yr awyr agored pan o'n i o dan hyfforddiant yn Bridgenorth yn 1958.

Ar Γ΄l cwpla yn yr RAF fel 'RAF Regiment Gunner', bu'n rhaid i mi weithio yn y gwaith glo. Ar Γ΄l sbel, es i i ga'l hyfforddiant fel peilot gyda Victor Hopkins yn Fairwood Common, Abertawe. 'Roedd Vic a'i wraig Helen yn rhedeg y clwb hedfan - y 'Swansea Flying Club'. Roedd Vic yn llym iawn ond o'n i'n hedfan yn saff o' dano fe am undegsaith blynedd.

O'n i eisie adeiladu Spitfire newydd, mas o goed. Penderfynes i adeiladu'r awyren Jordell gynta' - 'Jordell D9 single-seater'. Fe wnes i ei phrynu hi yng Nghaerdydd, wedi ei hadeiladu'n rhannol. A dyn yn Rhydaman, Alan Usherwood, wnaeth roi cymorth i fi gyda'r gwaith.

Wedyn prynes i gynlluniau ar gyfer adeiladu Isaac Spitfire. Dwi wedi bod yn gweithio am tua deng mlynedd ar ben fh hunan a dwi wedi cyflawni tri chwarter o'r gwaith. Ond ma' problem gen i - dyw'r garej dim yn ddigon mawr i roi'r awyren at ei gilydd.

Pan fydda i wedi gorffen adeiladu'r Spitfire, dwi wedi addo i'r wraig y byddai'n fodlon agor siop tships a philo'r tato fy hunan... os bydd hi yn fodlon gwerthu'r tships!

Holi John Howell Betton:

Beth yw'ch cefndir chi?

Rwy'n 66 ac yn briod am yr ail dro. Rwy'n byw ym Metws, Rhydaman.

Beth oedd eich profiad o wneud stori ddigidol?

Wnes i fwynhau cwrdd ΓΆ phobl newydd, gweithio gyda thΓ®m cyfeillgar, gweld sut mae'r straeon yn cael eu creu. Roedd yn fraint i gael y cyfle i adrodd fy stori fy hun.

Release date:

Duration:

3 minutes