Pegi Lloyd-Williams - Mae George wedi marw
Pegi Lloyd-Williams yn disgrifio hanes ei pherthynas cyfoethog o'r Amerig, George Ellis, y Miliwnydd o Galifornia.
Doedd gan Pegi Lloyd-Williams ddim syniad bod ganddi deulu yn byw yng Nghaliffornia. Dyma hanes y miliwnydd a ddaeth yr holl ffordd draw i Gymru i alw draw gyda Pegi yn y Blaenau.
Pegi Lloyd-Williams:
George Ellis, y miliwnydd o Galiffornia - dyn llwyddiannus a sylfaenydd banciau.
Mae'n wyrthiol sut y daeth o hyd i mi - doedd gen i ddim amynedd o gwbl efo hel achau, ond roedd Nan fy ffrind wedi myllio efo'r pwnc. 'Dowch i wneud 'y goeden'. Na, na 'nai ddim wir, dwi'n un o hen deulu TÅ·'r Ynys, Cwm Cynfal, a ma' hynny'n ddigon i mi.
Yn un o gyfarfodydd 'Cymdeithas Hanes Teuluoedd Gwynedd' roedd yna gais o Arizona gan ryw Bill Ellis yn gofyn a oedd yna rhywun yn gwybod am deulu TÅ·'r Ynys. Oherwydd fy 'styfnigrwydd, do'n i ddim wedi mynd i'r cyfarfod, ond wrth lwc mi oedd Nan, a dyna ddechrau ar y cysylltiad teuluol.
Ym mynwent Eglwys Sant Mihangel, Llan Ffestiniog, mae beddau Edward Humphrey, teiliwr a'i wraig Jane, sef fy hen-hen-hen-hen daid i a George. Ac wedi eu claddu yno hefyd, mae eu merch Sian Edward, a briododd efo Evan Jones, Tinllwyd, Llanfrothen yn 1804 - a dyna'r cysylltiad rhwng George a minnau. Cartre' cynta' Sian ac Evan oedd TÅ·'r Ynys, a ganwyd 16 o blant yno.
Symudodd eu mab hynaf, Sion Ifan - fy hen-hen daid - i Benmachno gan ddod yn glochydd a phostman yn ei dro. Bu i dri o hogia' eraill, ac un ferch, Gwen a'i gwr, wrando ar y gri boblogaidd: 'Go West Young Man', a'i throi hi am Minneappolis.
Pan ddeallodd George Ellis, bod ganddo deulu ar dir byw yng Nghymru, daeth pob cam o Galiffornia i fy ngweld yn 1994; roedd y teulu'n un unwaith yn rhagor. Yr un peth gweladwy oedd gennym i brofi ein perthynas oedd llun o Sian Edward.
Perthyn o bell oedd George a minnau - rhannu yr un cyndeidiau, a go brin fydd yna ddim sôn amdana'i yn ei ewyllys. Ond fyddai'n meddwl weithiau, beth petai Sion Ifan wedi gwrando ar y gri 'Go West' fel y lleill? Falla' 'swn i'n berchen ar 'ranch' erbyn hyn, neu'n un o sêr Hollywood -ond fu'swn i ddim yn Gymraes wedyn, ac mae hynny werth mwy na ffortiwn miliwnydd o Galiffornia.
Holi Pegi Lloyd-Williams:
Dywedwch rywfaint o'ch hanes.
Rwyf wedi ymddeol ers tua 10 mlynedd fel Prif Rheolwr ffatri beirianyddol. Rwyf wedi bod yn berson prysur erioed -yn aelod o gangen lleol 'Merched y Wawr' a chyn lywydd y sir ac rwyf wedi teithio i bedwar ban byd.
Rwyf yn mynd o gwmpas efo sgyrsiau ar deithiau, neu ar unrhyw destun fydd yn fy arwain i bori arno. Ers tua tair blynedd rwyf wedi bod yn gwneud gwaith ymchwil ar 'hen glochyddion' ac mae dau ran wedi eu cyhoeddi yn 'Y Casglwr'.
Am beth mae eich stori yn sôn?
Ar ôl clywed am weithdy Straeon Digidol yn 'Stiniog, derbyniais fanylion o'r Amerig yn dweud fod George Ellis wedi marw. Ein dau yn dod o'r un teulu, ond heb wybod am y naill na'r llall hyd at rhyw deg blynedd yn ôl.
Ein bywyd ni'n dau yn dra gwahanol - fo yn gyfoethog dros ben a minnau wedi profi crafu byw ar adegau. Wel dyma destun wrth fy modd, meddwn.
Pam y dewisoch sôn am y stori yma yn arbennig?
Roedd hwn yn fy ngalluogi i ddod â chefndir y teulu i bersbectif trwy y dulliau newydd - a oedd yn hollol ddieithr i mi. Mewn tri munud cawn olrhain hanes tua 200 o flynyddoedd.
Beth oedd eich profiad chi o wneud stori ddigidol?
Profiad gwerthfawr. Roedd yn agoriad llygad go iawn. Bu'n waith blinderog hefyd, ond sut y bu i'r tîm o arbenigwyr ymdopi efo ni i gyd 'wn i ddim!
Duration:
This clip is from
More clips from Cipolwg ar Gymru
-
Rhodri Pugh - Y Gnoc!
Duration: 02:16
-
Shirley G Williams - Seren Wîb
Duration: 01:11
-
Charles Cochrane - Arian heb sglein
Duration: 01:17
-
Keith O'Brien - Tu hwnt i'r drws
Duration: 02:22
More clips from Â鶹ԼÅÄ Cymru
-
Agor adeilad newydd y Cynulliad
Duration: 02:09
-
Refferendwm datganoli 1997
Duration: 02:31
-
Protestiadau Tryweryn 1965—Â鶹ԼÅÄ Cymru
Duration: 01:54
-
Ynys Enlli—Clipiau Dysgu, Dysgu
Duration: 01:00