Bobi Owen - D'warthu
Stori Bobi Jones sy'n poeni bod yna ddirywiad yn yr iaith Gymraeg yn Ninbych. Gobeithia y bydd rhai o eiriau tafodiaethol yr ardal yn cael eu rhoi ar gof a chadw.
Poena Bobi Jones fod y Gymraeg yn brysur colli'i thir yn ardal Dinbych. Felly aeth ati i sicrhau bod iaith a thafodiaith unigryw tre Dinbych yn cael eu rhoi ar gof a chadw. Ydych chi'n gwybod beth yw ystyr cratsh, shibols a bacalitsiaid?
Bobi Owen:
Gwerthu glo yn Ninbych a'r cyffiniau oedd gwaith fy nhaid, ond gan ei fod yn uniaith Gymraeg, nain oedd yn gorfod delio gyda'r cwsmeriaid di-Gymraeg. Treuliodd hi gyfnod yn gweini yng Nghaer, ac o ganlyniad roedd ganddi hi rywfaint o grap ar yr iaith fain.
O fewn dwy genhedlaeth mae pethau wedi newid yn llwyr, a'r Gymraeg yn brysur colli'i thir yn Ninbych yn fy marn i. Yn wyneb y fath ddirywiad, dyma benderfynu mynd ati i sicrhau bod iaith a thafodiaith unigryw tre Dinbych yn cael eu rhoi ar gof a chadw.
Yn niwedd yr wythdegau, daeth y diweddar Athro Bedwyr Lewis Jones, y dewin geiriau, draw i Ddinbych i draddodi darlith, ac yn ystod sgwrs gydag ef ar ddiwedd y noson, cafodd ei gyfareddu gan y gair: 'd'warthu'. Eglurais mai gair i ddisgrifio paratoi corff cyn ei gladdu ydoedd, ac ychydig ddyddiau'n ddiweddarach, anfonodd Bedwyr lythyr ataf yn egluro tarddiad ac ystyr cyflawn y gair, sef y broses o olchi a rhyddhau'r corff o unrhyw warth a geid yn ystod oes dyn.
Byddai fy nhaid druan yn troi yn ei fedd wrth weld dirywiad y Gymraeg heddiw, ond dw i yn gobeithio na welwn dranc iaith y nefoedd yn Ninbych ac na chaiff hithau hefyd ei 'd'warthu'.
Holi Bobi Owen:
Allwch chi ddweud rhywfaint amdano'ch hun?
Bum yn brifathro ysgolion yn y Mwynglawdd a Dinbych am ugain mlynedd. Fy hoff ddiddordebau yw hanes lleol a chasglu llyfrau hynafiaethol, hen gardiau post a hen lythyrau.
Beth mae eich stori amdano?
Stori syml am y dafodiaith leol yn Ninbych gyda phwyslais ar y gair "d'warthu". Mae tarddiad geiriau a thafodieithoedd lleol yn apelio'n fawr ataf.
Beth oedd eich profiad chi o wneud stori ddigidol?
Er fy mod yn gyfarwydd ag ysgrifennu erthyglau, roedd y dasg o greu stori eithaf syml a'i hasio gyda'r lluniau yn brofiad gwbl newydd a thra diddorol. Mwynheais hefyd gwmni'r aelodau a chriw y Βι¶ΉΤΌΕΔ.
Duration:
This clip is from
More clips from Cipolwg ar Gymru
-
Rhodri Pugh - Y Gnoc!
Duration: 02:16
-
Shirley G Williams - Seren WΓ®b
Duration: 01:11
-
Charles Cochrane - Arian heb sglein
Duration: 01:17
-
Keith O'Brien - Tu hwnt i'r drws
Duration: 02:22
More clips from Βι¶ΉΤΌΕΔ Cymru
-
Agor adeilad newydd y Cynulliad
Duration: 02:09
-
Refferendwm datganoli 1997
Duration: 02:31
-
Protestiadau Tryweryn 1965—Βι¶ΉΤΌΕΔ Cymru
Duration: 01:54
-
Ynys Enlli—Clipiau Dysgu, Dysgu
Duration: 01:00