R Elwyn Griffith - Atgofion
Stori R Elwyn Griffith o Lanberis sy'n cofio'r tro cyntaf iddo weld y bluen bysgota Dunkeld glasurol. Mae plu pysgota o ddiddordeb mawr iddo ac esbonia pam fod y bluen arbennig Dunkeld mor arbennig.
Stori R Elwyn Griffith o Lanberis sy'n cofio'r tro cyntaf iddo weld y bluen bysgota Dunkeld glasurol. Mae plu pysgota o ddiddordeb mawr iddo ac esbonia pam fod y bluen arbennig Dunkeld mor arbennig. Dewisodd y stori hon am eu bod yn dangos yr hen grefft o gawio.
R Elwyn Griffith:
Ma' 'ti bluan sy'n dod ag atgofion yn Γ΄l i mi - Dunkeld yw ei henw hi. Fel ti'n gweld ma' golwg difrifol arni... ond ma' hi 'di dal tipyn o samwns!
Mi oedd yna bencampwr o 'sgotwr yn afon Seiont 'ma blynyddoedd yn Γ΄l yn 'sgota efo hi... ac mi aeth yn sownd yn goedan. A'th adra i nol ei de a mi es i fyny'r goedan a dwyn y bluan a'i rhoi hi ar 'mlaen llinyn i 'sgota.
Ond pan ddoth o 'nΓ΄l dyma fo'n gofyn i fi, "Gawn i weld dy bluan di 'ngwas i." Ac mi ddangoses i hi... a dyma fo'n deud, "O! Gin ti ma' mhluan i'r diawl bach!"
Wna'th o adael i mi ei chadw hi - chwara teg iddo fo. Wedyn pen amsar, dwi 'di bod yn trΓ―o ei ail-chawio hi. Wel dwi 'di roi tri cynnig arni: Ma' hi y bluan fel y ces i hi gyntaf; a dyma fo y cynnig cynta' ges i ar ei chawio hi -'di o ddim yn ddrwg... a dyma hi yr un diweddar a hon sy' agosed i'r bluan glasurol ag sydd bosib ei gneud heddiw.
Holi R Elwyn Griffith:
Dywedwch rywfaint o'ch hanes.
Rwy'n frodor o Lanberis ond wedi byw yng Nghaernarfon am dros ddeg mlynedd ar hugain. Fy mhrif ddiddordeb yw pysgota. Mi rwyf hefyd yn gwneud ychydig o ysgrifennu erthyglau hanes a straeon byrion. Fel y gwelwch, mi rwyf yn cawio fy mhlu fu hunain ac mae gennyf ddiddordeb mawr mewn hen blu - yn enwedig plu eog a gwniadau.
Am beth mae eich stori yn sΓ΄n?
Mae fy stori i am bluen yr wyf yn hoff iawn o'i defnyddio. Mi rwyf wedi cael hwyl ar ei defnyddio ac mae gennyf ddigon o ffydd ynddi i wybod wnai ddal llawer mwy o eogiaid gyda hi.
Pam y dewisoch sΓ΄n am y stori yma yn arbennig?
Am eu bod yn dangos sut mae y grefft o gawio yn medru datblygu dros amser ond i chwi ymarfer y grefft a chael digon o hyder ynddoch eich hunan i feistroli'r grefft.
Beth oedd eich profiad o wneud stori ddigidol?
Mi ddysgais dipyn ar sut i osod y lluniau gyda'i gilydd gan ddefnyddio'r dechnoleg newydd sydd ar gael nawr.
Duration:
This clip is from
More clips from Cipolwg ar Gymru
-
Rhodri Pugh - Y Gnoc!
Duration: 02:16
-
Shirley G Williams - Seren WΓ®b
Duration: 01:11
-
Charles Cochrane - Arian heb sglein
Duration: 01:17
-
Keith O'Brien - Tu hwnt i'r drws
Duration: 02:22
More clips from Βι¶ΉΤΌΕΔ Cymru
-
Agor adeilad newydd y Cynulliad
Duration: 02:09
-
Refferendwm datganoli 1997
Duration: 02:31
-
Protestiadau Tryweryn 1965—Βι¶ΉΤΌΕΔ Cymru
Duration: 01:54
-
Ynys Enlli—Clipiau Dysgu, Dysgu
Duration: 01:00