Main content
Bydd y rhaglen yma ar gael yn fuan ar ôl cael ei darlledu

Ifor ap Glyn yn dysgu am rai o'r heriau sy'n wynebu'r iaith Gatalaneg ar ynys Mallorca. Ifor ap Glyn learns of some of the challenges facing the Catalan language in Mallorca.

Ifor ap Glyn yn cyflwyno hanes yr iaith Gatalaneg ar ynys Mallorca. Er bod yr iaith yn gryf yn ystadegol, mae'r sefyllfa'n wahanol iawn yng nghanol yr ynys o'i gymharu hefo ardaloedd mwy twristaidd yr arfordir. Dysgwn am beryglon gor-dwristiaeth a hanesion cyfarwydd am bobl ifainc yn methu fforddio lle i fyw. Bydd Rubén Chapella-Orri yn ystyried sefyllfa Mallorquin, y dafodiaith leol mewn perthynas â Chatalaneg y tir mawr a bydd Noélia Diaz Vicedo yn rhoi blas ar ddiwylliant llenyddol yr ynys; ac yn olaf bydd Maria Magdalena Amengual yn cyfansoddi glosa, cân draddodiadol fyrfyfyr yn arbennig i wrandawyr Radio Cymru - o fewn eiliadau!

Dyddiad Rhyddhau:

27 o funudau

Ar y Radio

Sul 3 Tach 2024 16:00

Darllediad

  • Sul 3 Tach 2024 16:00