Main content
Bydd y rhaglen yma ar gael yn fuan ar ôl cael ei darlledu

Ifor ap Glyn yn cyflwyno hanes yr adfywiad diweddar yn y Wyddeleg yn ninas Belfast ac yn cyfarfod â rhai o'r bobl sy'n gyfrifol. Ifor ap Glyn analyses Belfast's Gaelic revival.

Ifor ap Glyn yn cyflwyno hanes yr adfywiad diweddar yn y Wyddeleg yn ninas Belfast ac yn cyfarfod â rhai o'r bobl sy'n gyfrifol. Cawn hanes sefydlu'r Gaeltacht dinesig a'r ysgolion Gwyddeleg cyntaf gan Liam Andrews, a blas ar gynnyrch yr orsaf gymunedol Radio Fáilte yng nghwmni Séimí mac Andrasa. Mae Gearóid mac Siacais a Pól Mag Uidhir yn disgrifio sut y rhoes y Trafferthion, o 1969 ymlaen, hwb annisgwyl i'r iaith. Ond fel y mae Bethan Kilfoil a Brónagh Fusco yn egluro, mae dyfodol y Wyddeleg yn y ddinas, yn sicrach bellach ac mae'n dechrau magu cefnogaeth yn nwyrain y ddinas hyd yn oed.

27 o funudau

Ar y Radio

Dydd Sul 16:00

Darllediadau

  • Sul 22 Hyd 2023 16:00
  • Dydd Sul 16:00