Main content

Steffan Donnelly

Beti George yn sgwrsio gyda Steffan Donnelly, Cyfarwyddwr Artistig a chyd-gyfarwyddwr Theatr Genedlaethol Cymru. Beti George chats to Steffan Donnelly, Theatr Genedlaethol Cymru.

Beti George sydd yn sgwrsio gyda Steffan Donnelly, Cyfarwyddwr Artistig a chyd-gyfarwyddwr Theatr Genedlaethol Cymru.

Mae Steffan yn y swydd ers 2 flynedd ac yn sôn am yr heriau mae nhw'n ei wynebu fel cwmni gan bod y cyllid wedi aros run fath ers 2009.

Mae hefyd yn sôn am ei fagwraeth yn Llanfair Pwll, Ynys Môn, ac am ei ddiddordeb yn y theatr ers yn ifanc iawn. Fe dreuliodd wyliau haf ei blentyndod yng Ngogledd Iwerddon, cartref rhieni ei Dad, ac mae ganddo atgofion hapus o ymweliadau a'r fferm deuluol.

Sefydlodd Gwmni Theatr Invertigo yn 2012 – cwmni sydd wedi teithio ledled Cymru ac yn rhyngwladol gyda sawl cynhyrchiad megis Y Tŵr, My Body Welsh, My People, Derwen, a Gŵyl Rithiol Pererindod. Mae ei waith fel actor yn cynnwys cyfnodau yn y Barbican a Theatr Clwyd, a sawl tymor yn Shakespeare’s Globe.

Ar gael nawr

51 o funudau

Darllediad diwethaf

Iau 1 Awst 2024 18:00

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Yws Gwynedd

    Sebona Fi

    • CODI CYSGU.
    • Recordiau Côsh Records.
    • 7.
  • Meinir Gwilym

    Dim Byd A Nunlla

    • Smôcs, Coffi A Fodca Rhad.
    • Gwynfryn Cymunedol.
    • 1.
  • Eden

    Siwgr

    • Heddiw.
    • Recordiau Côsh.
    • 3.
  • Cristobal Tapia de Veer

    Renaissance (Main Title Theme) [from "The White Lotus: Season 2"]

    • Renaissance (Main Title Theme) [from "The White Lotus: Season 2"].
    • WaterTower Music.
    • 1.

Darllediadau

  • Sul 28 Gorff 2024 18:00
  • Iau 1 Awst 2024 18:00

Archif Beti a'i Phobol

Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.

Podlediad