Myron Lloyd
Beti George yn sgwrsio gyda'r gantores, Myron Lloyd. Beti George chats to Myron Lloyd, singer and a long serving volunteer with Llangollen Eisteddfod.
Mae Myron Lloyd wedi gwirfoddoli efo Eisteddfod Llangollen ar yr ochr farchnata ers blynyddoedd maith, ac yn y blynyddoedd diwethaf mae hi wedi bod yn edrych ar ôl noddwyr yr Eisteddfod, ond fe ddechreuodd ei chysylltiad bron I 60 mlynedd nol, pan enillodd y wobr 1af yn yr Alaw Werin dan bymtheg oed. Blwyddyn ar ôl hynny, Myron oedd ‘pin up’ yr Eisteddfod a bu ei lluniau mewn gwisg Gymreig ar bob math o nwyddau ar ol I lun ohonno gael ei gyhoeddi yn y gyfrol ‘North Wales in Colour’. Ar y clawr ôl roedd llun mawr o Myron a dynnwyd yn Eisteddfod Llangollen.
Cafodd Myron ei derbyn i fynd i’r Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd. Ond roedd ei llais y math oedd yn blino’n fuan, meddai hi. Roedd ganddi hefyd ddiddordeb mawr mewn ffermio felly penderfynodd fynd i goleg Gelli Aur i wneud cwrs Amaethyddol.
Ar ôl cyfnod yno cafodd gyfweliad efo’r Weinyddiaeth Amaeth a chael swydd yn Nolgellau. Roedd hi’n gweithio mewn labordy yn mynd o gwmpas ffermydd Sir Feirionnydd i gyd a oedd yn gwerthu llaeth.
Ond 'da ni dal i feddwl amdani fel cantores gyda llais melfedaidd ac wedi arbenigo ar ganu gwerin. Cawn hanesion ei bywyd ac mae’n dewis cerddoriaeth sydd yn golygu dipyn iddi.
Darllediad diwethaf
Cerddoriaeth a chwaraewyd
-
Pedwarawd Y Wenallt
Y Border Bach
- Sain (Recordiau) Cyf.
-
Christoph Willibald Gluck
Orfeo ed Euridice (Orphée et Eurydice) - Act 3: "Che farò senza Euridice?
Lyricist: Ranieri de’ Calzabigi. Conductor: Fritz Stiedry. Orchestra: Southern Philharmonic Orchestra.- Kathleen Ferrier Centenary Edition - The Complete Decca Recordings.
- Decca Music Group Ltd..
- 17.
-
Richard Rees
Y Dymestl
- Y Baswr O Bennal.
- Sain.
- 6.
-
Côr Meibion Pendyrus
Myfanwy
- Ultimate Welsh Choirs: 36 Classics From The Valleys.
- Music Club Deluxe.
- 25.
Darllediadau
- Sul 30 Meh 2024 18:00Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru
- Iau 4 Gorff 2024 18:00Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru
Archif Beti a'i Phobol
Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.
Podlediad
-
Beti a'i Phobol
Sgyrsiau gyda phobl diddorol. Interviews with interesting people