Main content

Karen Wynne

Beti George yn sgwrsio gyda Karen Wynne, Actores a Chonsuriwr. Beti George chats to Karen Wynne, Actress and Magician.

Yr actores a'r consuriwr Karen Wynne yw gwestai Beti a'i Phobol. Fe ddechreuodd wneud triciau ar lwyfan pan oedd hi'n 7 oed. Ei thad oedd yn ei dysgu.

Roedd wrth ei bodd pan yn ysgol mynd i nosweithiau Y Gymdeithas yn Nhywyn, Yr Urdd, Ffermwyr Ifanc a’r Groes Goch. Roedd Anti Mair Bryncrug yn dod â chriw bach ohonynt at ei gilydd i gynnal nosweithiau llawen. Dechreuodd wneud triciau hud yn y fan honno a hefyd mewn sioeau ysgol a charnifalau.

Ar Γ΄l ysgol a choleg aeth i'r byd actio, ac fe dreuliodd bymtheg mlynedd yn portreadu un o gymeriadau Rownd a Rownd. Ond pan ddaeth hynny i ben fe drodd at fyd hud a lledrith a bellach mae'n defnyddio'r gelfyddyd honno i helpu plant i fagu hyder ac i helpu pobol sydd yn fregus yn feddyliol.

8 o ddyddiau ar Γ΄l i wrando

56 o funudau

Darllediad diwethaf

Iau 29 Awst 2024 18:00

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Ken Dodd

    Happiness

  • Hogia’r Wyddfa

    Safwn Yn Y Bwlch

  • Mynediad Am Ddim

    Cofio Dy Wyneb

  • °δΓ΄°ω»ε²β»ε»ε

    Pantyfedwen

Darllediadau

  • Sul 23 Meh 2024 18:00
  • Sul 25 Awst 2024 18:00
  • Iau 29 Awst 2024 18:00

Archif Beti a'i Phobol

Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.

Podlediad