Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar Â鶹ԼÅÄ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Sir Benfro

Leisa Gwenllian yn sgwrsio â phobl sy'n gwneud gwaith anhygoel i wella'r amgylchedd. Leisa Gwenllian chats with people that are doing great things to help the environment.

Leisa Gwenllian yn sgwrsio â phobl sy'n gwneud gwaith anhygoel i wella'r amgylchedd. Yn y rhaglen yma mae hi'n ymweld â Sir Benfro ac yn darganfod mwy am brosiect Awel Aman Tawe, Wariars Ynni ac yn cwrdd â rhai o blant Ysgol Bro Ingli sydd yn tyfu llysiau fel rhan o'r cynllun. Mae Awel Aman Tawe yn elusen egni cymunedol sy’n gweithredu yn ne-orllewin Cymru. Maen nhw hefyd yn cefnogi cynllun Ysgolion Cynaliadwy Cyngor Sir Benfro ac mae Leisa yn cwrdd â rhai o'u swyddogion.

Mae Dr Rhys Morgan newydd dderbyn swydd newydd fel Rheolwr Prosiect net zero gyda Chyngor Sir Benfro, ac mae'n sôn am yr her sydd yn eu hwynebu. Ac fe fydd Leisa yn ymweld â phrosiect cyffroes Tir Glas yn Llanbedr Pont Steffan sydd yn weledigaeth newydd gan Goleg y Drindod Dewi Sant sydd yn arwain y ffordd gyda newid hinsawdd.

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 12 Tach 2023 16:00

Darllediad

  • Sul 12 Tach 2023 16:00