Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar Â鶹ԼÅÄ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Gogledd Ddwyrain

Leisa Gwenllian yn sgwrsio â phobl sy'n gwneud gwaith anhygoel i wella'r amgylchedd. Leisa Gwenllian chats with people that are doing great things to help the environment.

Leisa Gwenllian yn sgwrsio â phobl sy'n gwneud gwaith anhygoel i wella'r amgylchedd. Yn y rhaglen yma mae hi'n ymweld â phrosiect Y Bws Benthyg yn yr Wyddgrug sef lyfrgell symudol o eitemau i'w llogi yn hytrach na'u prynu. Hon yw'r 1af o'i bath yng Nghymru ac mae'r Bws wedi bod ar y lôn ers 10 mis bellach a'r bwriad ydi lleihau gwastraff.

Mae hi hefyd yn ymweld â Gwinllan Y Dyffryn ger Dinbych sydd wedi manteisio ar newid hinsawdd i gynhyrchu gwin yn Ddyffryn Clwyd. Yn ôl Gwen, maen nhw wedi paratoi ar gyfer gweld mwy o dywydd eithafol o ganlyniad i newid hinsawdd dros y blynyddoedd nesaf, ac yn gallu tystio i’r newidiadau sydd wedi digwydd yn barod dros y 10 mlynedd maen nhw wedi perchen ar dir y winllan.

Mae hi hefyd yn siarad gydag Erin Owain, merch o Ruthun sydd yn gweithio fel Dadansoddwr Risg Hinsawdd gyda chwmnïau mawr y byd.

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 5 Tach 2023 16:00

Darllediad

  • Sul 5 Tach 2023 16:00